Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Hydref 2018

1 Tachwedd 2018

Annwyl gydweithiwr,

 

Does fawr i’w ychwanegu at yr hyn a ddywedais i’r mis diwethaf am y posibilrwydd cynyddol o ymadawiad anhrefnus o’r UE, ond mae un nodwedd o’r broses gyfan yn haeddu sylw pellach. Byddwch yn gwybod bod y Llywodraeth yn ystyried bod dod â symud rhydd i ben yn newid hanfodol yn dilyn Brexit. Oherwydd hyn rydym ni wedi bod yn disgwyl Papur Gwyn ar fudo ers rhai misoedd bellach; mae wedi’i oedi dro ar ôl tro ond bydd ei angen cyn 29 Mawrth 2019 ac felly gallwn ddisgwyl rhywbeth yn ystod yr wythnosau nesaf neu’n gynnar yn y Flwyddyn Newydd fan bellaf. Mae amser o hyd i ddylanwadu ar gynnwys y Papur Gwyn ac yn sgil hynny’r Bil dilynol; mae hwn yn amser da i wneud hynny a byddaf yn cysylltu â seneddwyr perthnasol i’r perwyl hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys gwneud y pwyntiau rydym ni wedi’u gwneud sawl tro o’r blaen ond mae’n bwysig dal ati. Rydym ni am iddi fod mor hawdd â phosibl i ddarpar fyfyrwyr neu aelodau o staff ymuno â ni o bedwar ban byd oherwydd po fwyaf y pwll y gallwn bysgota ynddo, y mwyaf tebygol yw hi y byddwn ni’n gallu denu’r bobl orau. Mae angen i’r broses o sicrhau fisa fod mor llyfn a rhad â phosibl i staff a myfyrwyr, ac mae angen i ni ei gwneud yn glir bod Prydain yn croesawu talent o bedwar ban byd. Y potensial ar gyfer cyfyngu’r ffrwd o dalent o Ewrop a thu hwnt yw un o’r peryglon mwyaf sy’n ein hwynebu ni yn y tymor canolig i hir. Mae’r ddau adroddiad gan y Pwyllgor Ymgynghorol ar Fudo ar fyfyrwyr rhyngwladol a dinasyddion yr EEA yn dangos mai prin yw effaith myfyrwyr ar wasanaethau lleol, ac fe wyddom fod cyfraniad net dinasyddion EEA i economi Prydain yn hynod o gadarnhaol (gan gydbwyso’r dreth a delir yn erbyn cost y gwasanaethau cyhoeddus). Fe wyddom hefyd nad yw’r cyhoedd yn ystyried myfyrwyr rhyngwladol yn fudwyr a bod gan dros 70% farn gadarnhaol am fyfyrwyr sy’n astudio am radd yn y DU. Er ei bod yn siomedig bod adroddiad y Pwyllgor Ymgynghorol ar Fudo ar fyfyrwyr rhyngwladol wedi casglu bod tystiolaeth annigonol i gyfiawnhau ailgyflwyno fisa dwy flynedd ôl-astudio i fyfyrwyr, dywedodd y dylai’r Llywodraeth gomisiynu ymchwil perthnasol er mwyn i’r dystiolaeth fod ar gael. Fe wn y bydd Universities UK (UUK) yn dymuno pwyso am hynny, a byddaf yn gwneud y pwynt yn fy nghyfraniadau innau. Mae ASau a gweinidogion yn talu sylw os oes pryder cyhoeddus amlwg ar fater penodol a gallai hwn fod yn un sy’n werth rhoi gwybod amdano i’ch AS os ydych chi’n teimlo’n ddigon cryf amdano. Mae gan UUK wybodaeth ddefnyddiol yma ac mae Grŵp Russell wedi datblygu cynnig diddorol ar gyfer Trwydded Sgiliau Ewropeaidd a fyddai’n helpu i liniaru effeithiau negyddol diweddu symud rhydd ar brifysgolion.

 

Yn y cyfamser yma yng Nghaerdydd, cawsom y newyddion gwych fod Syr Stanley Thomas, sydd wedi cefnogi’r Brifysgol yn hael ers sawl blwyddyn, wedi addunedu rhodd o £1.1m i helpu i gyllido ein Canolfan Bywyd Myfyrwyr. Brodor o Ferthyr Tudful yw Syr Stanley, ac mae’n gwbl ymroddedig i’n cenhadaeth o ehangu cyfranogiad, a bydd darlithfa Syr Stanley Thomas yn yr adeilad newydd yn ein hatgoffa bod y Brifysgol ar agor i bawb ac o’n hymdrechion i ddenu a chefnogi myfyrwyr o’n cymunedau lleol. Rydym ni’n hynod ddiolchgar i Syr Stanley ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’r tîm Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr i ddathlu’r rhodd hael hon ac agoriad y cyfleuster newydd maes o law.

 

O sôn am frodorion Merthyr Tudful, mae’r Athro Julie Williams hefyd wedi bod yn dathlu lansio Sefydliad Ymchwil Dementia £20m Caerdydd, un o chwe chanolfan yn y DU sy’n rhan o fenter  £290m a gyllidir gan y Cyngor Ymchwil Meddygol, Cymdeithas Alzheimer ac Alzheimer’s Research UK, i ddod o hyd i ffyrdd newydd i sicrhau diagnosis, triniaeth ac atal dementia, a gofalu am bobl sydd â’r cyflwr. Yr Athro Williams yw Cyfarwyddwr y Ganolfan, a gyda’i chydweithwyr yn y Brifysgol mae hi hyd yma wedi darganfod 27 genyn risg ar gyfer dementia sy’n ymhlygu’r ymateb imiwn cynhenid sy’n pennu tueddiad unigolyn ar gyfer datblygu clefyd Alzheimer. Mae’n argoeli’n gyffrous iawn i’r Ganolfan ac mae’n bluen yn het Caerdydd a Chymru ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r lleoliad yma. Hefyd y mis hwn croesawodd yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant fyfyrwyr i’w cartref newydd nesaf at Orsaf Ganolog Caerdydd ac yn union ger adeilad newydd y BBC. Mae’r gynghrair strategol gyda’r BBC yn allweddol i ddyfodol yr Ysgol ac edrychwn ymlaen at flynyddoedd lawer o gydweithio llewyrchus.

 

Mis Hydref hefyd yw’r mis pan gynhelir Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd a doedd eleni ddim yn eithriad. Rydym ni’n hynod o ddiolchgar i aelodau o #TîmCaerdydd, gyda’u cyfranogiad yn gwneud cymaint i gefnogi ymchwil canser, niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl yma yn y Brifysgol. Byddwch yn gwybod bod trasiedi wedi taro’r digwyddiad eleni, gyda phawb wedi’u tristau’n fawr gan farwolaeth drist dau o’r rhedwyr: Ben McDonald a Dean Fletcher (BSc 2007), aelod o #TîmCaerdydd, a raddiodd o Ysgol Busnes Caerdydd. Rydym yn cynnig ein cydymdeimlad dwysaf â’u teuluoedd a’n diolchgarwch i bawb a gynigiodd gymorth. Rydym yn ddiolchgar am yr holl syniadau ac awgrymiadau a ddaeth i law am sut i gofio a dathlu bywyd Dean yn y ffordd orau, a byddant yn cael eu hystyried gyda’i deulu maes o law.

 

Mis Hydref yw Mis Hanes Pobl Dduon a bu’n fis o ddathlu ein cydweithwyr a modelau rôl BME, gan ddechrau gydag arddangosfa ar fywyd, gwaith a gweithgaredd hawliau dynol y canwr Americanaidd nodedig Paul Robeson, a syrthiodd mewn cariad â Chymru ar ôl cwrdd ar hap â glowyr o’r Rhondda. Hoffwn ddiolch i Undeb y Myfyrwyr, Cadeirydd y rhwydwaith staff BME, Abyd Quinn-Aziz, Susan Cousins a Julie Bugden am yr holl ddigwyddiadau a drefnwyd. Fel rhan o’r mis, cyhoeddodd Wales Online restr â’r teitl Brilliant, Black and Welsh, sy’n cynnwys cydweithwyr ac eraill sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol. Llongyfarchiadau i Dr Ahmed Ali, biolegydd planhigion yn Ysgol y Biowyddorau, a’r Athro Emmanuel Ogbonna, Athro Rheoli a Threfnu yn Ysgol Busnes Caerdydd, sydd ill dau ar y rhestr, fel y mae un o raddedigion Caerdydd, Vaughan Gething, AC De Caerdydd a Phenarth, AC ac Ysgrifennydd Cabinet du cyntaf Cymru, a’r unig un. Yn gynt y mis hwn, ymwelodd Mr Gething â’r Brifysgol yn rhinwedd ei swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol i lansio ein Banc Bio newydd, cyfleuster ymchwil newydd gwych fydd o fudd enfawr i Gymru a’r byd yn ehangach. Ms Cynthia Ogbonna, sydd ag MBA o Ysgol Busnes Caerdydd, yw’r fenyw gyntaf yn hanes 110 o flynyddoedd Bws Caerdydd i gael ei phenodi’n rheolwr gyfarwyddwr. Dan arweiniad Ms Ogbonna mae’r cwmni wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cyflog byw, fel rydym ni fel Prifysgol. Astudiodd Linda Mitchell, pennaeth amrywiaeth cyntaf erioed y BBC a chyn olygydd materion cymunedol y BBC, ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roedd yn bleser gweld Ali Abdi ar y rhestr, sy’n gweithio’n agos gyda’r Brifysgol ar ein prosiect Porth Cymunedol yn Grangetown. Marciau llawn i Wales Online am ein hatgoffa o’r amrywiaeth a’r dalent sydd i’w canfod yn y wlad hon, amrywiaeth sydd angen i ni ei gydnabod a’i ddathlu fwy yma yn y Brifysgol. Rwyf i’n hapus iawn i gefnogi ein rhwydwaith staff BME a’n myfyrwyr i sicrhau bod hyn yn realiti nid yn unig yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon, ond drwy gydol y flwyddyn.

 

Cofion gorau

 

Colin Riordan

Is-Ganghellor