E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Gorffennaf 2018
26 Gorffennaf 2018Annwyl gydweithiwr
Pleser yw dechrau ebost y mis hwn, yr olaf yn y flwyddyn academaidd hon, drwy longyfarch cydweithwyr a chyfeillion y Brifysgol a gafodd eu cydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines fis diwethaf. Cafodd yr Athro Billie Hunter, Athro Bydwreigiaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, CBE am wasanaethau i fydwreigiaeth ac addysg bydwreigiaeth yn y DU ac Ewrop, tra bod yr Athro Graham Hutchings, Athro Regius mewn Cemeg a Chyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd y Brifysgol, wedi cael CBE am wasanaethau i gemeg ac arloesedd. Dyfarnwyd MBE i’r Athro Haley Gomez, o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, am wasanaethau i astroffiseg, seryddiaeth a gweithgareddau allgymorth. Cafodd y Cymrawd Anrhydeddus Robert Wainwright, cyn-gyfarwyddwr Europol, ei gydnabod hefyd drwy gael ei urddo’n farchog am wasanaethau i blismona a diogelwch. Llongyfarchiadau mawr i bob un ar ran y Brifysgol gyfan.
Yn aml, dros y blynyddoedd, rydw i wedi gorfod sôn am yr ansicrwydd sy’n ein hwynebu fel prifysgol, ac wrth gwrs mae hyn yn fwy amlwg nag erioed o’r blaen ar hyn o bryd, ac yn cynnwys Brexit, anghydfodau ynglŷn â phensiynau a thâl, ac yma yng Nghymru, y dyfodol gwleidyddol wrth i Brif Weinidog newydd gael ei ethol. Ni all neb ragweld canlyniad y materion hynny, ac nid oes llawer y gallaf ei ddweud ar hyn o bryd fyddai’n ymhelaethu ar y ddadl gyhoeddus. Fodd bynnag, er gwaethaf yr ansicrwydd mae’n rhaid i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol, felly yn gynharach y mis hwn cytunodd ein Cyngor ar ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan edrych ymlaen i’r ddwy flynedd nesaf. Byddwn yn gweithredu gyda diffyg ariannol am un flwyddyn arall cyn dychwelyd i sefyllfa lle bydd gennym warged bach yn y flwyddyn ganlynol, ac yna dychwelyd i lefel gwarged 2013-14. Erbyn hynny bydd effeithiau llawn adolygiad Diamond yn amlwg yn ein grant gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Er i ni gyllido’n ofalus iawn dros y blynyddoedd er mwyn i ni allu bod mewn diffyg am gyfnodau byr, ni allwn wneud hynny am gyfnod amhenodol ac, yn wir, mae angen i ni gadw’r cyfnodau hynny mor fyr â phosibl. Er mwyn cyflawni’r rhaglen hon bydd yn rhaid i ni ystyried yn ofalus sut i roi trefn ar ein hadnoddau a byddwn am adolygu ein blaenoriaethau buddsoddi. Wrth wneud hynny mae’n hynod bwysig i ni sicrhau bod ystyriaethau academaidd yn cael blaenoriaeth, a’n bod yn manteisio ar y cyfle i gryfhau ein sefyllfa fel prifysgol yng Ngrŵp Russell, a’r unig brifysgol yng Nghymru sydd â siawns realistig o gyrraedd y 100 uchaf yn y byd, wrth i ni fynd ati i gyflawni’r perfformiad ariannol sydd ei angen. Bydd gwaith ar y materion hyn yn parhau drwy’r haf ac i dymor yr hydref, a bydd ein Prif Swyddog Ariannol, Mr Rob Williams, yn ysgrifennu erthygl ar gyfer Blas gyda mwy o fanylion dros yr wythnosau nesaf.
Y digwyddiad mawr ym mis Gorffennaf, wrth gwrs, yw Graddio, a gynhaliwyd yn llwyddiannus eto eleni. Mae’n ddigwyddiad mawr: Croesodd 7,200 o fyfyrwyr y llwyfan yn Neuadd Dewi Sant yn ystod yr wythnos, gyda chefnogaeth 25,000 o’u ffrindiau ac aelodau teulu. Cynhaliwyd 17 o seremonïau gennym a chynigiwyd naw o Gymrodoriaethau er Anrhydedd, a gweithiodd Dylan y Ddraig (masgot y Brifysgol) yn ddiwyd, weithiau mewn tywydd crasboeth, i sefyll mewn lluniau gyda graddedigion a’u gwesteion. Croesawodd ein cydweithwyr yn y gwasanaeth arlwyo 14,000 o bobl yn y derbyniadau graddio (newydd a gwell), gan weini 56,000 o canapés, 15,000 o gacennau bach, a 60,000 o wydrau Prosecco. Ar ben hynny, cawsom 4,500 o boteli o gwrw dathliadol Prifysgol Caerdydd a fragwyd gan Fragdy Bang-On ym Mhen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth â’r Ysgol Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol. Bydd ein graddedigion newydd yn ymuno â dros 160,000 o gynfyfyrwyr mewn dros 180 o wledydd ledled y byd. Mae’n gyfnod o weithredu dwys lle mae angen cydweithio ar draws y Brifysgol. Yn ogystal ag Annabel Hurst a’i thîm yn y sector arlwyo, trefnodd Fran Dunderdale a’i chydweithwyr yn y Gofrestrfa y cyflwyniad graddedigion hollbwysig a’r materion cysylltiedig, a chwaraeodd Ali Carter a’i chydweithwyr yn nhîm y cynfyfyrwyr ran bwysig yn y Cymrodoriaethau er Anrhydedd a’r digwyddiadau dathlu cysylltiedig, yn ogystal â chefnogi ein holl raddedigion newydd. Gweithiodd timau’r Porthorion, Diogelwch, TG a Chyfathrebu’n agos gyda’i gilydd a gyda’r Prif Farsialiaid a’r Areithwyr, a byddai’r seremonïau ar eu colled heb eu cyfraniad. Rydym hefyd yn elwa’n fawr ar gymorth y gwirfoddolwyr graddio sy’n tywys myfyrwyr a gwesteion o gwmpas y ddinas, ac wrth gwrs, ni allai hynny ddigwydd heb gefnogaeth werthfawr cydweithwyr academaidd ac Ysgolion ar draws y sefydliad. Mae’r digwyddiad cyfan i’w weld yn gwella bob blwyddyn, a hoffwn ddiolch yn fawr i bawb wnaeth cymaint o ymdrech i’w wneud yn llwyddiant ysgubol.
Fel y soniais yn fy ebost fis diwethaf, mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd eleni rhwng 3 a 11 Awst ym Mae Caerdydd ac mae’r Brifysgol yn chwarae rhan ganolog. Yn ogystal â noddi’r Goron a chael ein pabell Prifysgol Caerdydd arferol, rydym yn noddi’r Babell Wyddoniaeth ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth enfawr o weithgareddau sy’n cynnwys llawer o wahanol rannau o’r Brifysgol, gan gynnwys y Celfyddydau Creadigol a Hanes, Meddygaeth, Fferylliaeth a Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr. Mae’n gyfle gwych nid yn unig i arddangos ein hymchwil a’r cyfraniad yr ydym yn ei wneud at ein cymunedau lleol, ond hefyd ein hymrwymiad i Gymru. Eleni bydd cyfres newydd o ddigwyddiadau, Mas ar y Maes, sy’n fenter gydweithredol rhwng y gymuned LGBT, Stonewall Cymru a’r Eisteddfod. At ei gilydd, mae’n edrych fel rhaglen gyffrous, felly ewch draw os cewch chi gyfle.
Yn olaf, mewn tabl cynghrair newydd daeth Prifysgol Caerdydd yn 1af yng Nghymru ac yn 32ain yn Ewrop ar gyfer rhagoriaeth ein haddysgu, ac mae ffigurau cyflogaeth ymadawyr diweddaraf yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar gyfer 2016/2017 yn dangos bod mwy o’n graddedigion nag erioed o’r blaen wedi cael swydd a/neu’n parhau i astudio chwe mis ar ôl graddio. Roedd 95.7% o israddedigion amser llawn Prifysgol Caerdydd wedi’u cyflogi a/neu’n astudio, sef o 3,060 o blith 3,195. Dyma’r ganran uchaf ers i’r ffigurau ddechrau chwe blynedd yn ôl ac mae’n uwch na chyfartaledd presennol y DU, sef 94.6%.
Nid wyf fel arfer yn anfon ebost ym mis Awst, felly’r tro nesaf y byddwch yn clywed gennyf fydd diwedd mis Medi. Tan hynny, gobeithio y byddwch yn mwynhau gweddill yr haf rhyfeddol (hyd yma) hwn.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014