Lansio’r Sefydliad Codio
2 Gorffennaf 2018Yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld â Thŷ’r Arglwyddi gyda staff a myfyrwyr o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ar gyfer lansio’r Sefydliad Codio yn ffurfiol. Mae’r Sefydliad Codio yn gonsortiwm o dros 60 o bartneriaid o feysydd academaidd, diwydiant a sefydliadau dielw. Mae wedi cael gwerth £20m o gefnogaeth gan y llywodraeth, ac mae’n cael ei arwain gan gydweithwyr o Brifysgol Caerfaddon. Eu cenhadaeth yw datblygu ffyrdd arloesol o ddarparu sgiliau addysg digidol ar y raddfa ehangach i ddiwallu anghenion economi’r dyfodol.
Aeth arweinyddion ym maes diwydiant a llunwyr polisïau i’r digwyddiad, oedd o dan arweiniad y Farwnes McGregor-Smith. Roeddwn yn arbennig o falch eu bod wedi gwahodd myfyrwyr presennol i’r lansiad, gan gynnwys John Bennett o’r Brifysgol, sydd wedi cyfrannu’n eang fel llysgennad STEM yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Mae hefyd wedi darparu Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer athrawon yr Ysgol a chynnal gweithdai mewn Ysgolion i ennyn brwdfrydedd y genhedlaeth nesaf.
Dyfarnwyd £600k i Brifysgol Caerdydd – gan adeiladu ar lwyddiant yr Academi Meddalwedd Genedlaethol wrth ddarparu cyrsiau gradd arloesol wedi’u llywio gan ddiwydiant – gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) i gymryd rhan yn y Sefydliad Codio.
Bydd ein cyllid gan HEFCW yn ein galluogi i ymgymryd â dwy fenter gyffrous. Cwmni meddalwedd newydd gan fyfyrwyr yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yw’r fenter gyntaf. Byddwn yn ei lansio fel cynllun peilot, gan alluogi ein myfyrwyr i ennill sgiliau masnachol gwerthfawr yn ystod eu cwrs gradd. Mae’r ail yn fenter i gefnogi ein hymrwymiad i ehangu cyfranogiad, drwy ddatblygu clwb codio symudol fydd ar waith yng Nghaerdydd, Casnewydd a’r cymoedd, gan roi cyfleoedd newydd i blant ac oedolion ddatblygu diddordeb mewn sgiliau digidol.
Dewch i wybod rhagor am y Sefydliad Codio
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014