Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Eich cyfle i weld y Goron a noddwyd gan y Brifysgol

11 Mehefin 2018

Mae’n bosibl eich bod wedi clywed am genhadaeth ddinesig y Brifysgol a sut rydym wedi ymrwymo i wella iechyd, cyfoeth a lles Cymru.

Rydym yn falch o fod yn Brifysgol Gymreig ac mae’n bwysig i ni ddangos y nifer fawr o fanteision yr ydym yn eu cynnig i’r wlad a’i phobl.

O dalu’r Cyflog Byw i weithio gydag ysgolion i wella cyrhaeddiad, o gynnwys ein cymunedau mewn ymchwil i addysgu gweithwyr proffesiynol y dyfodol, rydym yn gwneud cyfraniad pwysig at lwyddiant Cymru.

Elfen bwysig arall o’n cenhadaeth ddinesig yw cefnogi a hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru, sy’n cynnwys ein presenoldeb blaenllaw yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn.

Eleni mae’r ŵyl ddiwylliannol yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, felly roeddem am chwarae rhan bwysig yn un o draddodiadau pwysicaf yr Eisteddfod – y Goron.

Mae dyluniad Coron yr Eisteddfod yn newid bob blwyddyn, a chaiff ei chyflwyno i enillydd un o’r ddwy brif gystadlaethau barddoniaeth.

Fe wnaeth y Brifysgol, sy’n noddi’r Goron eleni, arwain cystadleuaeth lle cafodd y gemydd cyfoes Laura Thomas ei dewis yn ddylunydd y Goron ar gyfer 2018.

Gweithiodd Laura gyda staff yn y Brifysgol i greu Coron fodern sy’n parchu traddodiadau’r Eisteddfod.

Gallwch weld y Goron a dysgu mwy am sut cafodd ei chreu mewn arddangosfa yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Cynhelir yr arddangosfa yn yr Amgueddfa rhwng 12 Mehefin a 12 Awst 2018 (dydd Mawrth – dydd Sul, 10.00–17.00) a byddwn yn eich argymell i alw heibio i fwrw golwg.