Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 4 Mehefin 2018

4 Mehefin 2018
  • Nodwyd bod cyfarfod cyntaf y Bwrdd Ymgynghorol ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi cael ei gynnal.
  • Nodwyd bod tua 160 o staff yn mynychu’r Gynhadledd Technegwyr heddiw lle roedd ymrwymiad y Technegwyr a’u cynllun gweithredu yn cael eu trafod.
  • Nodwyd, o’r 12 cais CDT a gyflwynwyd, fod 7 wedi’u dewis ar gyfer y cam nesaf.
  • Nodwyd bod y cynllun Nextbike Caerdydd, a gefnogir gan y Brifysgol, wedi cael ei lansio, a bod dros 4,000 o filltiroedd eisoes wedi’u cofnodi.
  • Nododd yr Athro Baxter ei fod wedi cynnal cyfarfod cynhyrchiol gydag uwch gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gyda ffocws ar gynllun gweithredu i ddatblygu partneriaeth strategol.
  • Derbyniodd a nododd y Bwrdd y dadansoddiad o ddyraniadau cyllid CCAUC ar gyfer 2018/19.
  • Derbyniodd a nododd y Bwrdd yr adroddiad ariannol misol.
  • Derbyniodd a nododd y Bwrdd y cylch gorchwyl drafft ac aelodaeth Grŵp Perfformiad Ariannol newydd y Brifysgol. Cynhelir cyfarfod cyntaf y grŵp yn dilyn cyfarfod y Bwrdd heddiw.
  • Derbyniodd y Bwrdd ddiweddariad cyntaf Cynllun Buddsoddi’r Brifysgol, bydd y papur hwn yn cael ei ddiweddaru bob chwarter.
  • Derbyniodd a nododd y Bwrdd y diweddariad strategol ynghylch ystadau, a fydd yn awr yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau i’w nodi.
  • Derbyniodd a chymeradwyodd y Bwrdd Bolisi Traws diweddaraf y Brifysgol. Yn awr cyflwynir y polisi hwn i’r Pwyllgor Llywodraethu i’w ystyried.
  • Derbyniodd y Bwrdd bapur yn amlinellu’r sail resymegol dros ymrwymo i Ddatganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), y goblygiadau a chamau gweithredu arfaethedig. Cymeradwywyd y cynnig, a bydd yn cael ei gyflwyno i’r Senedd ei ystyried.
  • Derbyniodd a chymeradwyodd y Bwrdd lefelau ffioedd dysgu 2019/20, bydd y papur hwn yn awr yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau i’w nodi.
  • Derbyniodd y Bwrdd ddiweddariad ar y Cronfeydd Strwythurol a chymeradwyo derbyn tri dyfarniad refeniw.
  • Derbyniodd a chymeradwyodd y Bwrdd yr ymateb drafft i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach
  • Derbyniodd a nododd y Bwrdd y Cynllun Ffioedd a Mynediad terfynol, 2019-20.
  • Derbyniodd a nododd y Bwrdd ei ddiweddariad chwemisol gan yr Adran Diogelwch a Lles Staff.
  • Derbyniodd a nododd y Bwrdd y cyntaf o’r diweddariadau newydd chwemisol ar Gynaliadwyedd Amgylcheddol.
  • Derbyniodd a nododd y Bwrdd friffiad ar anerchiad diweddar y Prif Weinidog ar y Strategaeth Ddiwydiannol.
  • Derbyniodd a nododd y Bwrdd friffiad ar Gynadleddau gwanwyn y Pleidiau yng Nghymru.

Derbyniodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Diweddariad misol Ymchwil ac Arloesedd
  • Diweddariad y System Arloesedd
  • Diweddariad misol am weithgareddau’r genhadaeth ddinesig