Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Mai 2018

31 Mai 2018

Annwyl gydweithiwr

Newyddion cymysg y mis hwn am y tablau cynghrair. Cyhoeddwyd tri o dablau safleoedd 2018/19, ac er nad oes yr un o’r rhain yn dablau rydym ni’n eu dilyn i fesur ein perfformiad, mae’n werth adolygu’r hyn sy’n digwydd. Yn The Complete University Guide 2019 rydym ni wedi codi tri lle i safle 33 yn y DU a’r brifysgol orau yng Nghymru. Yn y Guardian rydym ni wedi gostwng i safle =58 (gyda Choleg King’s, Llundain, Brunel, SOAS a Kingston) o safle 42 y llynedd, ac yn nhabl y Centre for World University Rankings symudon ni i fyny i safle 131 yn y byd o 184, o blith yr 18,000 o brifysgolion a fesurwyd. Mae’n bosibl fod rhai o’r symudiadau’n digwydd oherwydd newid yn y fethodoleg (mae’r Guardian wedi gwneud rhai newidiadau dadleuol er enghraifft), ond bydd angen dadansoddi manwl cyn i ni wybod yn union a oes dangosyddion defnyddiol i’w cael yma. Fel rwyf i’n ei ddweud yn aml, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y tablau cynghrair, o ran yr honiadau maen nhw’n eu gwneud drostynt eu hunain a’r hyn maen nhw’n ei ddweud amdanom ni. Rhaid i ni beidio â gadael iddynt lywio’r Brifysgol, ond maen nhw yna i bawb eu gweld, ac mae’n bwysig deall sut rydym ni’n cymharu dan y gwahanol fethodolegau.

Y mis hwn fe ddysgon ni ychydig mwy am agwedd y llywodraeth at gyd-drafod dros FP9 (Horizon Ewrop, y rhaglen sy’n olynu Horizon 2020). Rwyf i wedi crybwyll o’r blaen bod ewyllys da ar y ddwy ochr i’n galluogi ni i gysylltu â’r rhaglen newydd o 2021 ymlaen, ac mae’r llywodraeth bellach wedi bod yn fwy pendant nag erioed gan ddatgan ein bod yn barod i wneud ‘cyfraniad teg’ i’r rhaglen yn ariannol yn gyfnewid am fesur priodol o ddylanwad. Mae’n bwysig ein bod yn glir na fyddai hyn yn golygu dewis a dethol; mae gwledydd eraill nad ydynt ar hyn o bryd yn aelodau o’r UE yn cymryd rhan yn y rhaglen mewn amrywiol weddau ac i raddau amrywiol, ac mae ein cyfranogiad ni ers amser maith yn golygu bod gennym ni gysylltiadau cryf iawn yn barod. Y gobaith yw – yn wir, byddwn i’n disgwyl – y bydd ein safle fel cenedl sy’n arwain yn rhyngwladol yn nhermau ymchwil, gwyddoniaeth ac arloesi’n gymhelliad cryf i’r Comisiwn ddod i gytundeb ar y mater hwn. Mae’n rhesymol disgwyl lefel briodol o ddylanwad nid yn unig oherwydd yr arian y byddem ni’n ei gyfrannu – a fyddai’n sylweddol oherwydd y cyfanswm mae’r Comisiwn yn ei gynnig yw €97.6bn dros y cyfnod o 7 blynedd – ond oherwydd bod gennym ni lawer i’w gynnig o ran arbenigedd a phrofiad. Beth bynnag fydd y trefniadau, mae’n hanfodol fod ymchwilwyr, gwyddonwyr a rhanddeiliaid gwyddonol ac arloesedd eraill yn y DU yn cael cyfle i gyfrannu at y meddylfryd a dylanwadu ar y penderfyniadau mewn rhyw fodd. Yn y cyfamser, yma yng Nghaerdydd mae’n wych gweld ein bod dan weithredu Maria Skłodowska-Curie wedi sicrhau 11 o Gymrodoriaethau Unigol, felly rydym ni’n parhau’n gyrchfan dymunol iawn i ymchwilwyr o Ewrop ac yn wir yn fyd-eang. Bydd ein hymgysylltu agos parhaus gyda rhaglenni ymchwil a gwyddoniaeth yn Ewrop yn talu ffordd i ni os ydym ni’n llwyddo i sicrhau cyswllt â Horizon Ewrop o 2021 ymlaen.

Gan barhau â’r thema ymchwil, rwyf i wrth fy modd i allu dweud ein bod wedi penodi Dirprwy Is-Ganghellor newydd i olynu’r Athro Hywel Thomas ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf. Mae’r Athro Kim Graham wedi’i phenodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter, gan adeiladu ar ei hanes ymchwil personol rhagorol a’i phrofiad gwerthfawr fel Deon Ymchwil yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd. Llongyfarchiadau i Kim ac rwyf i’n edrych ymlaen at ei chroesawu i’r tîm arweiniol. Ar nodyn tebyg, mae recriwtio ar waith ar gyfer Dirprwy Is-Ganghellor newydd a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, ac rwyf i’n gobeithio penodi cyn diwedd mis Mehefin er mwyn gallu pontio’n llyfn pan fydd yr Athro George Boyne yn gadael i ymgymryd â’i swydd newydd fel Pennaeth ac Is-Ganghellor Prifysgol Aberdeen. Yn sgil ymadawiad yr Athro Boyne rwyf i wedi gofyn i’r Athro Rudolf Allemann ymgymryd â rôl Cadeirydd y Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn, gyda chyfrifoldeb ac atebolrwydd am recriwtio myfyrwyr drwyddi draw. Mae hon yn swydd hynod o bwysig, o ystyried pwysigrwydd denu’r ceisiadau iawn i’r rhaglenni iawn yn y niferoedd iawn.

Mae’n hanfodol hefyd pan fydd myfyrwyr gyda ni ein bod yn rhoi’r math o gymorth y mae ganddyn nhw hawl i’w ddisgwyl gennym ni. Hoffwn longyfarch holl enillwyr y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr eleni, sy’n cydnabod cyfraniadau rhagorol i brofiad y myfyriwr ac a enwebwyd gan y myfyrwyr eu hunain. Ceir ymrwymiad enfawr ar ran ein staff i gefnogi ein myfyrwyr ac mae pawb sy’n ymwneud â hyn i’w canmol. Yn olaf, llyfrgelloedd yw sylfaen astudio i lawer o’n myfyrwyr ac mae’r gwasanaeth rydym ni’n ei ddarparu’n hanfodol i sicrhau llwyddiant. Mae’n bleser felly gallu estyn llongyfarchiadau gwresog i Ms Tracey Stanley o Wasanaethau Llyfrgell y Brifysgol, sydd wedi’i henwi’n Llyfrgellydd y Flwyddyn Cymru.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor