Cerdded er budd ein lles
29 Mai 2018Y mis hwn, rydw i wedi ymuno â thua 300 o aelodau staff ar draws y campws i ymrwymo i gymryd rhan mewn Her Cyfrif Camau wyth wythnos o hyd. Dechreuodd yr her hon ar gyfer y gweithle, a ddatblygwyd gan elusen Paths for All, ar 30 Ebrill ac mae’n para wyth wythnos.
Mae 58 o dimau o Brifysgol Caerdydd wedi cofrestru a ‘dwi’n gobeithio bod pawb yn dechrau teimlo manteision lles mynd i gerdded.
Ddwy flynedd yn ôl, fe welais dros fy hun y gwahaniaeth dirfawr y gall cerdded gael ar fy lles. Dydw i ddim yn mwynhau mynd i’r gampfa na gwneud unrhyw chwaraeon, felly roedd ymgorffori cerdded yn rhan o fy nhrefn dyddiol yn ymddangos fel ffordd dda o wneud ychydig o ymarfer corff. Dechreuais gerdded i’r gwaith ac yn ôl bob dydd…a does dim llawer o bobl yn gallu dal fyny â mi erbyn hyn!
Ers gwneud y newid syml hwnnw, ‘dwi wedi sylwi ar rhai manteision rhyfeddol: Mae fy asthma wedi gwella, pŵer fy anadl wedi cynyddu, ‘dwi’n cymryd llai o feddyginiaeth, ‘dwi wedi colli pwysau, a ‘dwi’n teimlo llawer yn fwy iach a heini yn gyffredinol.
Yn ogystal â’r manteision corfforol, mae cerdded hefyd yn rhoi lle i mi. Mae gennym ni oll fywydau gwaith prysur ac rydym yn treulio rhannau helaeth o’n diwrnod yn rhuthro o un lle i’r llall ond ‘dwi wedi canfod fod taith gerdded dawel adref yn llwyddo i leihau straen ac yn ffordd ddymunol o bontio rhwng gwaith a gartref.
A minnau’n gymaint o eiriolwr dros gerdded, ni allwn wrthod y cyfle i gymryd rhan yn yr her cyfrif camau! Mae fy nhîm – Senior Moments – yn cynnwys fy nghyd-aelodau y Bwrdd Gweithredol, Karen Holford, Amanda Coffey a Claire Saunders, a fy Rheolwr Busnes, Tom Hay. Hyd yn hyn, rydym wedi gwneud cyfanswm o 1805159 o gamau rhyngom, gan ein gosod ymysg 20 o dimau uchaf Prifysgol Caerdydd. Ond er bod elfen gystadleuol wastad yn hwyl, nid ein safle sy’n bwysig. Y peth pwysig yw ein bod ni gyd yn gweld gwelliannau yn ein lles drwy wneud newidiadau mân yn ein harferion. P’un ai dewis defnyddio’r grisiau neu fynd am dro yn yr heulwen amser cinio, mae popeth yn cyfrif ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
Mae’n bosibl y bydd yr her cyfrif camau yn dod i ben ar ôl wyth wythnos ond mae cerdded er budd eich lles yn newid hirdymor yn eich ffordd o fyw. Felly, ymunwch â mi a gwneud cerdded yn rhan o’ch trefn dyddiol trwy’r flwyddyn – bydd yn gwneud cymaint o ddaioni i’ch lles ag y mae wedi ei wneud i mi.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014