Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Y llwyddiant gorau erioed wrth sicrhau cyllid Ewropeaidd

8 Mai 2018

Mae’n bleser gennyf adrodd bod y Brifysgol wedi llwyddo gydag un ar ddeg o’i cheisiadau i gylch diweddaraf rhaglen Marie Skłodowska-Curie Actions (MSCA) ar gyfer Cymrodoriaethau Unigol yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r dyfarniadau hyn yn golygu mai Prifysgol Caerdydd fydd cartref rhai o ymchwilwyr gorau’r byd sydd ar ddechrau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, ac y byddant yn dod â dros £1.5m o gyllid.  Mae dau gynnig pellach wrth gefn yn eu paneli perthnasol, gyda gobaith da y cânt eu cyllido maes o law.

Mae rhaglen MSCA yn cyllido Cymrodoriaethau Ewropeaidd a Byd-eang, sydd ar agor i ymchwilwyr sy’n symud o fewn Ewrop yn ogystal â’r rheini sy’n dod i mewn o rannau eraill o’r byd.

Nid oes cynsail i’r llwyddiant hwn ac mae’n dangos bod unigolion o bob rhan o’r byd am ddod i ddatblygu eu gyrfaoedd gyda ni yma yng Nghaerdydd. Mae hefyd yn dyst i’n cydweithwyr academaidd, gyda chymorth rhagorol gan y timau Ymchwil Ewropeaidd a Rhyngwladol yn y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi a’r Coleg Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, a weithiodd yn galed ar y ceisiadau hyn gyda’u Cymrodyr.

Mae’r canlyniadau hyn hefyd yn dangos manteision ymwneud â rhaglen flynyddol Cymorth Mewnol i Gymrodoriaeth Unigol MSCA y Brifysgol, sydd newydd ei lansio ar gyfer dyddiad cau’r alwad nesaf ym mis Medi 2018.

Mae cytundebau grant bellach wedi’u llofnodi gyda’r Comisiwn Ewropeaidd a bydd Cymrodyr sy’n dod yn wreiddiol o China (2), Colombia (1), Cyprus (1), yr Eidal (4), Romania (1) a’r Unol Daleithiau (1) yn ymuno â ni dros y misoedd nesaf, gyda phosibilrwydd o ddau arall hefyd o Ffrainc ac India. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y Cymrodyr yn treulio dwy flynedd yn y Brifysgol, gydag un Cymrawd yn treulio’r flwyddyn gyntaf yn Colombia a’r ail yn y Brifysgol. Yn anffodus mae un o’r ymgeiswyr llwyddiannus wedi tynnu’n ôl gan ei bod yn symud i’r Unol Daleithiau.

Gyda natur ‘o’r gwaelod i fyny’ y rhaglen mae prosiectau ein Cymrodyr yn cwmpasu ystod eang iawn o bynciau gan gynnwys: cymhwyso’r Economi Gylchol i gynllunio Tai Cymdeithasol; datgloi llwybr newydd ar gyfer trin llid a chlefyd y cornbilen; gwella arferion rheoli llifogydd; datblygu cyffuriau gwrth-dengue arloesol; a dadansoddi ac ymchwilio Bwdhaeth Dwyrain-Asiaidd yn Ne Affrica ôl-Apartheid.

Hoffwn hefyd grybwyll a llongyfarch Dr Jonathan Ben-Artzi, yr Ysgol Mathemateg, a’i Gymrawd  Dr Junyong Zhang o China, a fydd yn gweithio ar y prosiect ‘Dadansoddiad geometrig o blasmau gwanedig’ (GRANDPA). Sgoriodd eu cais 100%, sef y sgôr uchaf yn nisgyblaeth Mathemateg, ac un o wyth un unig a sgoriodd 100% o’r 9,089 o geisiadau ar draws paneli MSCA.

Roedd dau o’r ceisiadau llwyddiannus eleni’n ailgyflwyniadau o’r cylch diwethaf, felly anogaf y rheini yn eich plith na fu’n llwyddiannus y tro hwn i ailgyflwyno, ac i’r rheini sydd â diddordeb mewn cynnal Cymrawd yn y dyfodol i gysylltu drwy’r Swyddfa Ewropeaidd a Rhyngwladol yn y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi drwy: EIRO@caerdydd.ac.uk, est 70171, neu ffonio: +44 (0)29 2087 0171.