Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Gweithredu diwydiannol: Camau cymorth – newyddion diweddaraf

8 Mai 2018

Annwyl fyfyriwr,

Dyma nodyn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynlluniau i fynd i’r afael a’r aflonyddwch a achoswyd o ganlyniad i’r gweithredu diwydiannol diweddar.

Mae staff wedi bod yn gweithio’n galed yn ystod gwyliau’r Pasg, ac ers hynny, i wneud trefniadau i fynd i’r afael â chyfleoedd dysgu ac addysgu a gollwyd. Maent hefyd wedi bod yn sicrhau bod yr asesiadau yn ystyried yr aflonyddwch a achoswyd gan y gweithredu diwydiannol.

Gofynnwyd i’ch Ysgol sicrhau bod yr holl fanylion ynghylch gweithgareddau yr amharwyd arnynt, a’r camau cynorthwyo cysylltiedig, yn cael eu cyhoeddi ar Dysgu Canolog ar gyfer pob modiwl yr effeithir arnynt, ac i gynghori lle ac erbyn pryd y gallwch roi adborth os ydych yn teimlo bod y wybodaeth a ddarperir naill ai’n anghywir neu’n anghyflawn.

Fel y gwyddoch, efallai, ystyrir pob asesiad gan Fyrddau Archwilio sy’n gyfrifol am gadarnhau canlyniadau, gan fynd i’r afael ag amgylchiadau esgusodol a sicrhau bod safonau academaidd eich gradd yn cael eu cynnal.

Caiff y Bwrdd Arholi ar gyfer eich rhaglen wybod am bob achos pan mae’r streic wedi amharu’n uniongyrchol ar addysgu a’r camau cymorth a roddwyd ar waith. Ni fydd rhaid i chi hysbysu am y materion hynny fel amgylchiadau esgusodol.

Mae Byrddau Arholi wedi cael yr hawl i gymryd ystod o gamau fel y bo’n briodol wrth ystyried yr amgylchiadau. Gall y rhain gynnwys:

  • Caniatáu i fyfyrwyr ailsefyll asesiad aflwyddiannus heb bennu uchafswm marciau
  • Graddio marciau – addasiadau i farciau modiwlau os bydd y marciau mewn modiwl yr amharwyd arno

gan weithredu diwydiannol yn amrywio’n sylweddol o’u cymharu â marciau modiwl eraill

  • Peidio â chynnwys modiwlau a amharwyd gan weithredu diwydiannol wrth bennu dosbarth y radd.

Bydd eich Ysgol yn rhoi rhagor o wybodaeth ynglŷn â rhoi’r rhain ar waith yn ogystal â chamau gweithredu ychwanegol eraill ar ôl eu rhoi ar waith.

Mae rhai myfyrwyr wedi codi’r mater o iawndal gyda’r Brifysgol ac mae hyn wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau. Diwedd y flwyddyn academaidd yw’r adeg pryd y gallwch wneud cwyn ynghylch effaith y gweithredu diwydiannol, ar ôl gweithredu’r holl gamau cymorth rydym wedi eu gosod, neu ein bod wrthi’n eu gosod.

Os byddwch yn anfodlon o hyd bryd hynny, gallwch gyflwyno cwyn drwy gyfrwng ein Gweithdrefn Gwyno i Fyfyrwyr. Mae’r weithdrefn hon yn galluogi nifer o ffyrdd o unioni pethau, gan gynnwys iawndal ariannol lle y bo’n briodol.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno’n dda i’n holl fyfyrwyr yn ystod cyfnod yr arholiadau sydd ar y gweill, ac i dynnu eich sylw at gymorth a chyngor pellach…

Mae staff y gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr a myfyrwyr ar interniaethau wedi rhannu eu hawgrymiadau mewn blogiau, gan gynnwys:

Mae rhagor o wybodaeth am arholiadau ac asesu hefyd ar gael ar y fewnrwyd.

Yn gywir,

Yr Athro Amanda Coffey

Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd