Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 5 Mawrth 2018

5 Mawrth 2018
  • Cafodd y Bwrdd gyflwyniad gan ymgynghorwyr Cubane ynghylch set ddata Uniforum ddiweddaraf Caerdydd.
  • Cafodd y Bwrdd newyddion ar lafar ynghylch yr anghydfod diwydiannol a nodwyd bod yr Is-Ganghellor wedi mynd i sesiwn holi ac ateb UCU heddiw lle roedd sawl aelod o’r Bwrdd yn bresennol, ac y cytunwyd ar ddatganiad.
  • Nodwyd bod saith pwnc wedi eu rhestru yng 100 uchaf QS.
  • Nodwyd bod yr Is-Ganghellor wedi cynnal cinio a gafodd ei werthfawrogi’n fawr ar gyfer y grŵp Tonnau Disgyrchiant.
  • Cafodd y Bwrdd Gynllun Buddsoddi diweddaraf y Brifysgol, ac yn amodol ar rai newidiadau, cymeradwywyd y papur i’w gyflwyno i’r Cyngor ym mis Mawrth.
  • Cafodd y Bwrdd bapur yn gofyn am ryddhau cyllid yn gynnar ar gyfer cydleoli Mathemateg a Chyfrifiadureg. Cafodd y cais ei gefnogi a byddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor ym mis Mawrth i’w gymeradwyo.
  • Cafodd y Bwrdd ymateb i gynnig cyfalaf Ymchwil ac Arloesedd CCAUC ar gyfer 2017/18. Nododd y papur fod CCAUC yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i gael cyllid Cyfalaf Ymchwil ac Arloesedd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon; nodwyd dau brosiect yn barod i gael cyllid dan yr alwad hon (i) ehangu’r Academi Meddalwedd Genedlaethol i’w galluogi i gymryd rhan ym menter y Sefydliad Codio a (2) adeiladu cyfalaf Arloesedd Canolog i’n galluogi i gymryd rhan ym menter Rhaglen Scale Up SETsquared.  Cytunwyd y byddai’r ymateb yn cael ei gyflwyno.
  • Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Blynyddol Gweithgareddau Arloesedd ac Effaith Masnachol. Gofynnwyd am rai mân newidiadau cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cyngor ym mis Mawrth.
  • Cafodd a chymeradwyodd y Bwrdd ddiweddariad ynglŷn â’r cynnydd ar Adroddiad Menywod Talentog ar gyfer Cymru Lwyddiannus gan Lywodraeth Cymru.
  • Cafodd a chymeradwyodd y Bwrdd, yn amodol ar rai mân ddiwygiadau, yr ymateb drafft i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch ‘Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit’.
  • Cafodd y Bwrdd gynllun gweithredu Adolygiad Reid eto, a welwyd yn flaenorol ym mis Gorffennaf 2017, ac adroddwyd ar y cynnydd a wnaed. Cytunwyd y byddai’r cynllun gweithredu yn cael ei diweddaru ac y byddai’r amserlenni’n cael eu monitro.
  • Cafodd y Bwrdd bapur gydag amlinelliad o’r Cynllun Diswyddo Gwirfoddol, byddai dadansoddiad yn ôl Coleg yn cael ei ychwanegu cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cyngor i’w nodi.
  • Cafodd y Bwrdd Adolygiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ym mis Mawrth. Nodwyd y byddai’r cynllun yn cael ei adolygu’n llawn cyn y tro nesaf iddo gael ei gyflwyno.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Diweddariad misol ymchwil ac arloesedd
  • Y newyddion diweddaraf am y System Arloesedd
  • Diweddariad misol am genhadaeth ddinesig
  • Diweddariad ar yr amgylchedd allanol