Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 26 Chwefror 2018

26 Chwefror 2018
  • Cafodd y Bwrdd adroddiad ar lafar ynghylch y streic a chyfarfod y Grŵp Arbenigol sydd ar y gweill. Yr Athro Holford sydd wedi’i drefnu a bydd yn cwrdd ddydd Gwener.
  • Nodwyd bod myfyrwyr wedi cynnal protest yn ddiweddar y tu allan i swyddfa’r Is-ganghellor, yn gofyn am werthu asedau dros gyfnod o dair blynedd. Caiff y Polisi Buddsoddi’n Gyfrifol yn Gymdeithasol drafft ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.
  • Nodwyd y cafodd digwyddiadau eu cynnal yn y Guildhall a Phalas Buckingham i ddathlu dyfarnu Gwobr Pen-blwydd y Frenhines.
  • Nodwyd bod y Swyddfa Batentau yn dathlu 400 mlynedd o batentau, gan gynnwys yr un a ddyfarnwyd i’r Athro Ian Weeks ar gyfer sylweddau sy’n allyrru golau (cemoleuol) fel dewisiadau amgen i ‘ganfodyddion’ ymbelydrol.
  • Nodwyd bod etholiadau Undeb y Myfyrwyr wedi cael eu cynnal ac mai’r Is-Lywydd presennol ar gyfer Addysg, Fadhila Al Dhahouri, fydd y Llywydd ar gyfer 2018/19 a bod yr Is-Lywydd presennol ar gyfer Myfyrwyr Ôl-raddedig, Jake Smith, wedi’i ailethol am dymor arall.
  • Cafodd y Bwrdd ymateb y Brifysgol i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gefnogi astudiaethau doethurol. Cymeradwyodd yr ymateb yn amodol ar ambell fân-newid.
  • Cafodd y Bwrdd ymateb i Bapur Gwyrdd Prifysgol Caerdydd, ‘Adeiladu Mwy o Swyddi, a Swyddi Gwell’, ac fe gymeradwyodd yr ymateb hwn.
  • Cafodd y Bwrdd ddrafft o agenda’r Cyngor i’w nodi.
  • Cafodd y Bwrdd bapur hysbysu am faterion yn ymwneud â ffioedd ac ariannu yng Nghymru a Lloegr. Nodwyd nad yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) Llywodraeth Cymru 2018 yn cyfeirio at fyfyrwyr Ôl-raddedig a bod hyn yn destun ymholiad.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Adroddiad misol am faterion ariannol
  • Adroddiad misol y Prif Swyddog Gweithredu