Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 19 Chwefror 2018
19 Chwefror 2018- Nodwyd bod yr Athro de Leeuw wedi ymweld â India’r wythnos ddiwethaf i gwrdd â phartneriaid a thrafod cyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith diwydiannol.
- Nodwyd gyda thristwch, bod aelod o staff o’r Ysgol Busnes wedi marw y bore yma.
- Nodwyd bod Sarah Hoefflin, un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, wedi ennill medal aur yn y gystadleuaeth sgïo slopestyle i fenywod yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf.
- Nodwyd bod yr Athro Thomas wedi cael cyfarfod gyda chynrychiolwyr WEFO a bod y Brifysgol wedi cael ei hannog i fwrw ymlaen â’i cheisiadau erbyn y dyddiad cau ddiwedd mis Mawrth 2018.
- Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rheoliadau Diemwnt yr wythnos ddiwethaf.
- Mae’r Bwrdd wedi cael drafft y Strategaeth Galluogi Cynaliadwyedd Amgylcheddol ac mae wedi’i chymeradwyo yn amodol ar ambell fân-newid. Mae’r strategaeth yn rhoi manylion y weledigaeth a’r blaenoriaethau dros y pum mlynedd nesaf.
- Cafodd y Bwrdd bapur ar ddulliau adrodd am y gwahaniaeth mewn cyflogau rhwng dynion a menywod. Mae’n ofynnol i sefydliadau addysg uwch yn Lloegr sydd â 250 neu ragor o weithwyr, roi gwybod am y gwahaniaeth yng nghyflogau dynion a menywod ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Nid yw hynny’n ofynnol yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cytunwyd y byddai gwybodaeth am y gwahaniaeth yng nghyflogau dynion a menywod ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael ei rhoi ar wefan Llywodraeth y DU a gwefan y Brifysgol.
- Cafodd y Bwrdd bapur sy’n amlinellu cynllun benthyciad di-log ar gyfer tocynnau teithio blynyddol. Cymeradwyodd y Bwrdd y papur yn amodol ar ambell fân-newid. Caiff ei roi ar waith o 1 Ebrill 2018 ymlaen a’i lansio yn ystod yr Wythnos Gynaliadwyedd.
- Cafodd y Bwrdd ddrafft yr ymateb i CCAUC ynghylch y defnydd a wneir o ddyraniad cyfalaf ymchwil 2017/18. Cymeradwyodd y Bwrdd y papur, yn amodol ar ambell fân-newid. Mae’r papur yn rhoi syniad cychwynnol o’r prosiectau ymchwil cyfalaf yr ydym yn bwriadu eu cynnwys yng nghais CCAUC i Lywodraeth Cymru am arian cyfatebol.
- Cafodd y Bwrdd bapur am sut gallai’r Brifysgol fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd a gynigir gan y Strategaeth Ddiwydiannol.
- Nodwyd bod adolygiad Lloegr o ariannu ôl-18 wedi’i gyhoeddi heddiw. Er na fydd adroddiad yr adolygiad am barod am tua blwyddyn arall, gwnaed y sylw y byddai’n rhaid i’r Brifysgol ddechrau meddwl am y modd y gallai’r argymhellion effeithio ar Gymru.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Diweddariad misol o geisiadau myfyrwyr
- Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata
- Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop
- Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
- Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014