Gweithredu diwydiannol: Llythyr agored gan yr Is-Ganghellor at fyfyrwyr
16 Chwefror 2018Annwyl fyfyrwyr,
Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol y bydd rhai o aelodau Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn gweithredu’n ddiwydiannol cyn bo hir.
Mae staff yn streicio ynghylch y newidiadau arfaethedig i Gynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS).
Mae’r streic yn berthnasol i brifysgolion eraill yn y DU, ac nid Prifysgol Caerdydd yn unig.
Bydd y Brifysgol ar agor fel arfer. Ni fydd yr holl staff ar streic, a dylech dybio y bydd eich darlithoedd, seminarau a gweithgareddau dysgu ac addysgu eraill yn mynd rhagddynt yn ôl yr amserlen, oni bai eich bod yn gwybod fel arall.
Yn ogystal, bydd modd i chi ddefnyddio gwasanaethau’r Brifysgol drwy gydol cyfnod y streic.
Hoffwn ymddiheuro i chi ymlaen llaw os bydd hyn yn tarfu arnoch mewn unrhyw ffordd. Gallaf eich sicrhau ein bod yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr y bydd y streic yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar ein myfyrwyr.
Mae rhywfaint o gefndir y mater i’w gweld isod yn ogystal â gwybodaeth am sut byddwn yn eich cefnogi drwy gydol cyfnod y gweithredu diwydiannol.
Yn ogystal, y pwnc hwn a gafodd y prif sylw yn fy negeseuon ebost i’r holl staff ym mis Tachwedd a mis Ionawr. Mae’r rhain ar gael i’w darllen ar flog Bwrdd Gweithredol y Brifysgol sydd ar wefan y Brifysgol.
Darllenwch fy ebost at yr holl staff ym mis Tachwedd
Darllenwch fy ebost at yr holl staff ym mis Ionawr
Pam mae staff y Brifysgol yn streicio?
Mae UCU (gan gynnwys staff academaidd a’r gwasanaethau proffesiynol) wedi cadarnhau cynlluniau i fynd ar streic oherwydd newidiadau arfaethedig i gynllun pensiwn cenedlaethol o’r enw Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS).
Dros y misoedd diwethaf bu llawer iawn o drafod ynghylch USS a’i brisiad diweddaraf. Datgelodd y ddau brisiad diwethaf o’r Cynllun (yn 2011 a 2014) ddiffyg arian sy’n cyrraedd biliynau. Mae’n broblem sy’n wynebu’r rhan fwyaf o gynlluniau buddion penodol y DU.
Mae cynnig i addasu’r cynllun pensiwn wedi’i gynnig er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg. Ym mis Mawrth, ymgynghorir â holl aelodau’r Cynllun ynglŷn â’r cynnig hwn.
Mae’r cynnig yn golygu symud oddi wrth y cynllun cyfredol o’r enw buddion diffiniedig i un o’r enw cyfraniadau diffiniedig. O dan y cynnig, byddai prifysgolion yn parhau i dalu 18% o gyflog pob aelod i mewn i’r cynllun. Ni fydd y newidiadau yn effeithio ar unrhyw fuddion pensiwn a gronnwyd hyd at fis Ebrill 2019.
Mae pryder aelodau’r Cynllun yn gwbl ddealladwy. Does neb am fod yn ein sefyllfa bresennol; mae’n anodd i’r cyflogwr a’r gweithiwr fel ei gilydd.
Fodd bynnag, rydym yn wynebu amgylchiadau allanol anodd. Rydym yn awyddus i gynnig cynllun pensiwn cryf i’n holl staff, ond mae angen i ni sicrhau cynaliadwyedd ariannol y Brifysgol. Rydym yn elusen sydd â rhwymedigaeth i wneud yn siŵr bod arian yn cael ei wario ar ein prif ddiben, addysgu ac ymchwil, ac mae costau staff yn amlwg yn elfen allweddol o hyn.
Rydym wedi ymrwymo i dalu 18% o gyflogau fel yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd o dan y Cynllun. Fodd bynnag, ni allwn fforddio cyfrannu at yr 11% ychwanegol o gyflogau a fyddai’n angenrheidiol drwy’r cynllun presennol (buddion diffiniedig) yn y dyfodol. Ni fyddai hyn yn gynaliadwy yn y tymor hir, a dyna pam mae’r Brifysgol o blaid symud i gynllun arall (cyfraniadau diffiniedig) ar gyfer staff.
Mae angen i ni ddod o hyd i ateb sy’n fforddiadwy i gyflogwyr ac aelodau fel ei gilydd. Nid ydym am weld aelodau’n gorfod cymryd toriad o bron i 4% yn eu cyflog (oherwydd byddai eu cyfraniadau’n codi). Ni allwn ychwaith oddef rhoi’r Brifysgol mewn sefyllfa ariannol anghynaladwy a allai arwain at anfodlonrwydd ymysg myfyrwyr, a gostyngiad cyffredinol mewn perfformiad. Byddai’n rhaid i brifysgolion dderbyn cynnydd o dros 7% yng nghostau cyflogau, sydd dros £10m yn ein hachos ni.
Pryd bydd y gweithredu diwydiannol yn digwydd?
Dyma ddyddiadau’r streic:
Dydd Iau 22 a dydd Gwener 23 Chwefror (dau ddiwrnod)
Dydd Llun 26, dydd Mawrth 27 a dydd Mercher 28 Chwefror (tri diwrnod)
Dydd Llun 5, dydd Mawrth 6, dydd Mercher 7 a dydd Iau 8 Mawrth (pedwar diwrnod)
Dydd Llun 12, dydd Mawrth 13, dydd Mercher 14, dydd Iau 15 a dydd Gwener 16 Mawrth (pum niwrnod).
Mae gan aelodau hawl i fynd ar streic i amddiffyn eu sefyllfa bresennol, ac mae’r Brifysgol yn parchu’r hawl honno. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr na fydd hyn yn tarfu’n ormodol ar waith y Brifysgol ac y caiff gyn lleied o effaith â phosibl ar fyfyrwyr.
Sut bydd y Brifysgol yn cefnogi myfyrwyr yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol?
Bydd y Brifysgol yn parhau i fod ar agor yn ystod cyfnod y gweithredu diwydiannol a bydd modd i chi ddefnyddio gwasanaethau gan gynnwys llyfrgelloedd, campfeydd a gwasanaethau cefnogi myfyrwyr, o hyd. Fodd bynnag, gallai fod rhywfaint o darfu, a gallai hyn yn effeithio ar rai darlithoedd a gwasanaethau.
Ein nod yw rhoi cymaint o rybudd i chi â phosibl os bydd eich darlithoedd a’ch seminarau’n cael eu heffeithio. Fe gewch eich hysbysu drwy sawl cyfrwng a allai gynnwys negeseuon testun, ebost, Dysgu Canolog a’r fewnrwyd, felly gwnewch yn siŵr bod eich manylion cyswllt cywir yn SIMs. Gallwch wirio eich manylion yma.
Nid oes rhaid i staff hysbysu’r Brifysgol am eu bwriad i streicio, sy’n golygu efallai na fyddwn bob amser yn gallu eich rhybuddio ymlaen llaw am ddarlithoedd sy’n cael eu canslo neu wasanaethau sy’n cael eu heffeithio. Fodd bynnag, byddwn yn rhannu gwybodaeth fanwl pan fydd modd i ni wneud hynny.
Ein blaenoriaeth a’n hymrwymiad yw gwneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn gallu cyflawni’r deilliannau dysgu sy’n gysylltiedig â’ch rhaglen a modiwlau astudio. Gallai hyn gynnwys aildrefnu darlithoedd, darlithoedd gan gydweithiwr academaidd arall, neu ddarlithoedd newydd neu flaenorol sydd wedi eu recordio. Byddwn hefyd yn aildrefnu’r holl ddyddiadau cyflwyno sydd ar un o ddiwrnodau’r streic, lle bo hynny’n bosibl.
Gallwn eich sicrhau ein bod yn gweithio’n galed i leihau unrhyw effaith andwyol y gallai gweithredu diwydiannol ei chael arnoch chi a’ch astudiaethau.
Os oes gennych broblemau penodol ar lefel eich Ysgol gallwch gysylltu â Swyddfa’r Ysgol fydd yn gallu eich cynghori neu eich cyfeirio at adrannau perthnasol o’r Brifysgol.
Byddwch yn cael eich hysbysu drwy nifer o sianeli a allai gynnwys testun, ebost, Dysgu Canolog a’r fewnrwyd.
Am fwy o wybodaeth gwelwch y cwestiynau ac atebion i fyfyrwyr ar weithredu diwydiannol.
Yn gywir,
Yr Athro Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014