Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 5 Chwefror 2018

5 Chwefror 2018
  • Cafodd y Bwrdd gyflwyniad gan Katrina Henderson a Richard Rolfe ar y cyfnod pontio i’r safon IS14001 newydd. Nodwyd mai Caerdydd yw’r unig Brifysgol yn y DU i gael ardystiad 14001 ac 18001 ac er mwyn cadw ardystiad y System Reoli Amgylcheddol, rhaid inni newid i 14001:2015.
  • Derbyniodd y Bwrdd bapur ar y pecyn cymorth ôl-raddedig dros dro arfaethedig ar gyfer myfyrwyr Cymreig a myfyrwyr yr UE yn 2018/19.
  • Derbyniodd y Bwrdd y cynllun rheoli carbon ar gyfer 2016-2020. Cytunwyd i weithredu’r opsiwn a gyflwynwyd lle roedd y Brifysgol yn parhau â’i hymrwymiadau cyfredol gyda chyllid ar gyfer cam cyntaf y Cynllun Rheoli Carbon i’w sicrhau o Gronfa Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru.
  • Derbyniodd a chytunodd y Brifysgol i bapur a oedd yn gosod allan argymhellion i gefnogi tracio’r manteision a ragwelir fel y’u hamlinellir mewn achosion busnes ac i’w cynnwys mewn adolygiadau ar ôl prosiectau.
  • Nodwyd bod dirprwyaeth o Brifysgol Bremen yn ymweld â’r Brifysgol.
  • Nodwyd y digwyddiadau a fydd yn digwydd fel rhan o Wythnos Siarad, gyda ffocws ar les.
  • Nodwyd bod gweithlyfrau metrigau pynciau TEF wedi’u derbyn, er nad yw Caerdydd yn rhan o beilot lefel pynciau TEF.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Diweddariad misol ymchwil ac arloesedd
  • Y newyddion diweddaraf am y System Arloesedd
  • Diweddariad misol am genhadaeth ddinesig