Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Yr Academi Meddalwedd Genedlaethol

8 Ionawr 2018

Ym mis Rhagfyr, cefais y pleser o ymweld â’r Academi Meddalwedd Genedlaethol (NSA) yng Nghasnewydd. Gan fy mod yn ymwybodol o lwyddiant yr Academi ac wedi clywed cymaint am ei dull addysgu unigryw, roeddwn yn awyddus i ymweld â’r Academi dros fy hun.

Mae’r Academi Meddalwedd Genedlaethol yn fenter gyffrous gan Brifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac arweinwyr diwydiant, sy’n mynd i’r afael â’r prinder cenedlaethol o raddedigion medrus ym maes rhaglenni a pheirianneg meddalwedd. Ar ôl cyrraedd yr Academi, fe sylweddolais yn syth nad un o adeiladau arferol y Brifysgol oedd hwn.
Ar hyn o bryd mae’r Academi mewn swyddfa fodern, ddisglair a rennir gyda busnesau sy’n gysylltiedig â thechnoleg.
Mae’r ymgysylltiad agos hwn â diwydiant yn allweddol ac fe wnes i gwrdd â chydweithwyr o ddiwydiant a chwaraeodd rôl bwysig wrth ddylunio’r cwricwlwm. Mae’r myfyrwyr yn rhannu ystafelloedd mawr cynllun agored sy’n eu hannog i ryngweithio a chydweithio.

Hon yw trydedd flwyddyn yr Academi, a bydd ei myfyrwyr cyntaf yn graddio’r haf hwn.  Ar y diwrnod y bues i yno, roedd myfyrwyr yr ail flwyddyn yn cyflwyno eu prosiectau i’w cleientiaid. Felly, yn ogystal â chwrdd â staff, cefais y cyfle hefyd i gwrdd â myfyrwyr a rhai o’r cleientiaid y maent wedi bod yn gweithio gyda nhw.
Roedd y myfyrwyr yn gadarnhaol iawn am eu profiadau ac yn mwynhau’r dull addysgu a’r cyfleusterau. Roedd yn gwbl amlwg i mi y bydd graddedigion yr Academi yn hynod gyflogadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r prinder difrifol o beirianwyr meddalwedd yn economi Cymru, y DU ac yn fyd-eang.

Roeddwn yn falch iawn o glywed am gynnig cyffrous dan ystyriaeth i sefydlu cangen fasnachol o’r Academi. Mae astudiaeth ddichonoldeb ar y gweill ar hyn o bryd ond mae gan hyn botensial mawr, o ran gwasanaethu’r galw mewnol am feddalwedd yn y Brifysgol, yn ogystal â gwneud gwaith allanol yn fasnachol. Datblygiad cyffrous arall yw lansiad rhaglen MSc newydd ym mis Medi 2018. Unwaith eto, bydd hyn yn ceisio mynd i’r afael â phrinder peirianwyr meddalwedd trwy gynnig rhaglen drosi i raddedigion o ddisgyblaethau STEM eraill er i’w galluogi i symud i’r diwydiant hynod ddeinamig ac amlweddog hwn.

Yn ystod fy amser yng Nghasnewydd, cefais y cyfle i weld y cyfleuster llawer mwy y bydd yr Academi yn symud iddo yn haf 2018. Mae yng nghanol y ddinas ger gorsaf Casnewydd. Bydd yr adeilad newydd, sydd wedi’i feddiannu gan Gyngor Dinas Casnewydd ar hyn o bryd, yn cynnig sylfaen ardderchog i alluogi’r Academi i gyflawni ei chynlluniau uchelgeisiol i dyfu a rhoi profiad hyd yn oed yn well i’r myfyrwyr.

Os hoffech chi gael gwybod rhagor am yr Academi, ewch i: www.caerdydd.ac.uk/software-academy