Delweddau Ymchwil
3 Ionawr 2018Yn nigwyddiad blynyddol yr Academi Ddoethurol, Delweddau Ymchwil, cafwyd eleni eto arddangosfa weledol wych a gwirioneddol ysbrydoledig o hyd a lled yn ogystal ag ansawdd ardderchog yr ymchwil sy’n cael ei chynnal yn ein Prifysgol. Yn ogystal, bum yn dyst i sgyrsiau bywiog rhwng ein ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ar draws y disgyblaethau, staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol.
Mae gan yr Academi Ddoethurol genhadaeth i hyrwyddo Prifysgol Caerdydd fel sefydliad ymchwil ôl-raddedig blaenllaw ac un o’i thasgau pwysig iawn yw hyrwyddo ymdeimlad o gymuned ar gyfer ein myfyrwyr doethuriaeth. Mae cystadleuaeth Delweddau Ymchwil yn enghraifft wych o’r modd y mae’r Academi yn annog ac yn hwyluso ymchwilwyr ar draws y Brifysgol i ryngweithio.
Diolch i Ddeoniaid Ymchwil Ôl-raddedig y Coleg, Dr Emma Kidd, yr Athro Martin Kayman a’r Athro Walter Gear, am ymgymryd â’r dasg anodd iawn o feirniadu’r 45 delwedd o safon uchel eleni. Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Ewa Poniecka o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr am ei delwedd ‘Mae Tyllau Duon yn Fyw’, delwedd a gymerodd yn ystod ei thaith maes i feysydd rhew yr Ynys Las.
Najia Zaidi o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio gafodd yr ail wobr am ei delwedd ‘Gwydnwch y Masnachwr Stryd’, sy’n crynhoi ei hymchwil ar drais a brwydr tiriogaethol rhwng masnachwyr stryd ym Mhacistan.
Enillydd Dewis y Bobl oedd Anya Barton o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ar gyfer ‘Diogyn (Sloth): Grêt mewn Cyfweliadau, Ofnadwy wrth Drawsgrifio’, sy’n portreadu ei ‘chynorthwy-ydd ymchwil’ anwesol.
Roeddwn yn falch iawn hefyd o gyhoeddi pwy yw Cyfarwyddwr newydd yr Academi Ddoethurol, yn y digwyddiad Delweddau Ymchwil. Mae’r Athro Anwen WIlliams newydd gymryd yr awenau ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi. Yn atodol i’r thema o ddechreuadau newydd, mae tîm yr Academi Ddoethurol hefyd newydd symud o’u swyddfeydd yn adeilad Hadyn Ellis i leoliad newydd yng nghanol y ddinas, yn Friary House. Mae’r Academi Ddoethurol ar 5ed llawr yr adeilad, gyda dwy ystafell seminar ac ystafell TG ar gyfer gweithdai a digwyddiadau. Yn ogystal, bydd lle i 40 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sydd angen lle i ysgrifennu eu traethodau ymchwil doethurol.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014