Cynorthwyo myfyrwyr sy’n dioddef trais, cam-drin neu droseddau casineb hil
5 Rhagfyr 2017Yr wythnos ddiwethaf cefais brofiad prin, sef clywed straeon bywyd rhyfeddol yn cael eu hadrodd mewn ffordd ddifrifol a difyr. Mewn digwyddiad a drefnwyd gan Susan Cousins, Swyddog Prosiect Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Prifysgol Caerdydd, siaradodd yr Uwch-arolygydd Jay Dave a Bharat Narbad, Cadeirydd Cymdeithas Heddlu Du De Cymru, am siwrneiau eu teuluoedd o Gujarat i’r DU – a hynny drwy Tansania yn achos yr Uwch-arolygydd Dave.
“Pan fydd pobl yn son am ffoaduriaid o Syria fel ‘nhw’ neu ‘eraill’ – mae’n taro’n chwithig,” dywedodd yr Uwch-arolygydd Dave. “Rwyf i’n un o’r ‘eraill’ hynny. Symudodd fy nheulu yma ar ôl i Tansania daflu pobl Asiaidd allan ddeng mlynedd cyn i Uganda wneud yr un peth. Symudon ni i ddwyrain Llundain, yna i Romford ac yn y pen draw i Gymru.”
Roedd y digwyddiad yn Sesiwn ar Droseddau Casineb Hil. Daeth 27 o bobl o bob rhan o’r Brifysgol yno ac roedd yn rhan o ymateb y Brifysgol i Adolygiad Annibynnol Bhugra i gydraddoldeb hiliol yn y Brifysgol.
Gwahoddwyd fi yno ar ran Bwrdd Gweithredol y Brifysgol a chefais fy nhristau, os nad fy synnu, i glywed am droseddau casineb hil y mae’r heddlu eu hunain yn eu dioddef. Yn achos yr Uwch-arolygydd Dave roedd yn ddigwyddiad diweddar mewn tafarn yn Lloegr. “Clywyd unigolyn penodol yn fy sarhau ac yn dweud y dylwn ddychwelyd i fy ngwlad fy hun,” dywedodd. Yn fwy pryderus fyth – teimlodd na chafodd ymateb boddhaol gan yr heddlu lleol.
Ehangodd y sesiwn i edrych ar droseddau neu ddigwyddiadau casineb yn gyffredinol. Digwyddiad casineb yw unrhyw ddigwyddiad a all fod yn drosedd neu beidio, y mae’r dioddefwr neu unrhyw berson arall yn ei ddirnad yn un sydd wedi’i gymell gan ragfarn neu gasineb. Trosedd casineb yw unrhyw ddigwyddiad casineb sy’n drosedd y mae’r dioddefwr neu unrhyw berson arall yn ei ddirnad yn un sydd wedi’i gymell gan ragfarn neu gasineb Rhagor o wybodaeth am droseddau casineb
Mae’r heddlu yn annog y dylid eu hysbysu am unrhyw droseddau neu ddigwyddiadau o’r fath. Fel y dywedodd Jason Coultis, Swyddog Troseddau Casineb Caerdydd, “Os nad ydym ni’n gwybod am y troseddau does dim modd i ni gynorthwyo’r dioddefwr a dwyn y troseddwr i gyfrif. Ac mae’n ei gwneud yn anodd targedu ein hadnoddau i’r cyfeiriad cywir.”
Mae’r Brifysgol wedi sefydlu Tîm Ymateb i Ddatgeliadau gyda staff arbenigol yn y Brifysgol wedi eu hyfforddi i ymateb i ddatgeliadau o drais a cham-drin gan fyfyrwyr . Maen nhw’n cynnig cymorth ymarferol, gan gynnwys:
- cymorth i reoli pryderon diogelwch parhaus
- cyswllt wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein, i sôn am eich profiad a’r holl opsiynau cymorth sydd ar gael
- cyngor ymarferol ar anghenion tai, ariannol ac academaidd
- cymorth os yw’r sawl sydd wedi bod yn dreisgar/camdriniol yn byw neu’n astudio gyda chi
- cyfeirio at wasanaethau cymorth arbenigol
Rhagor o wybodaeth i staff a myfyrwyr am y gwasanaethau hyn
Y nod gan bawb yn y pen draw yw dileu troseddau casineb yn llwyr ac un o’r ffyrdd gorau i wneud hyn yw sicrhau dialog er mwyn i gymunedau gwahanol eu gweld ei gilydd fel pobl, nid stereoteipiau. Dyna pam fod yr Uwch-arolygydd Dave a Bharat Narbad, Cadeirydd Cymdeithas Heddlu Du De Cymru, yn barod i rannu eu straeon eu hunain a rhannu eu teithiau rhyfeddol. Roedd yn fraint cael eu clywed.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014