Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 6 Tachwedd 2017

6 Tachwedd 2017
  • Nodwyd llwyddiant grant £5 miliwn a roddwyd i Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ar gyfer prosiect gan yr Adran Addysg ar wasanaethau plant.
  • Nodwyd bod Mrs Sadgrove wedi cael brecwast busnes wythnos Cyflog Byw, lle cafwyd sylwadau cadarnhaol gan Brif Weinidog Cymru am ymrwymiad prifysgolion Cymru at y cyflog byw; byddai Mrs Sadgrove yn sôn am y cyflog byw ym mrecwast busnes yr Ysgol Busnes ddydd Iau.
  • Nodwyd bod aelodau o’r Bwrdd wedi cytuno pa nodweddion y byddent yn eu hyrwyddo: oedran (Mr Williams); anableddau (yr Athro Coffey); ailbennu rhywedd (yr Athro Allemann); priodi a phartneriaethau sifil (Mrs Sadgrove); beichiogrwydd a mamolaeth (Ms Sanders); hil (yr Athro de Leeuw); crefydd a chredoau (yr Athro Thomas), rhyw (Ms Rawlinson) a chyfeiriadedd rhywiol (yr Athro Baxter); gyda’r Athro Boyne yn hyrwyddo ehangu cyfranogiad ac anfantais (er nad yw’n nodwedd warchodedig, byddai’n debygol o ddod yn un yn y dyfodol). Byddai’r Is-Ganghellor a’r Athro Holford yn hyrwyddo’r holl nodweddion gwarchodedig.
  • Byddai briff ar gabinet newydd Cymru yn dilyn yr aildrefnu yn cael ei rannu ag aelodau’r Bwrdd pan fyddai’r Rheolwr Materion Cyhoeddus yn ei swydd. Nodwyd y byddai cylch gwaith Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, yn cynnwys gwyddoniaeth ac ymchwil ac arloesedd.
  • Nodwyd bod yr Athro de Leeuw wedi ymweld yn ddiweddar â Brasil a Phrifysgol Campinas (Unicamp), y Brifysgol orau yn America Ladin, ynghyd â Phrifysgol Bremen gyda’r Athro Ian Hall gan fod Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr eisoes yn cydweithio â’r Brifysgol honno.
  • Nodwyd bod yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg wedi cynnal Symposiwm Bôn-gelloedd llwyddiannus iawn, gan ddod ag ymchwilwyr bôn-gelloedd o Siapan a’r DU at ei gilydd, a bod Prif Weinidog Cymru wedi mynd i’r digwyddiad agoriadol.
  • Nododd Mr Williams iddo fynd i ddigwyddiad cydnabod gwasanaeth am y tro cyntaf, a dywedodd ei fod yn achlysur penigamp.
  • Nododd Mr Williams iddo fynd i gyfarfod Grŵp Prifysgolion Hollbleidiol Seneddol am gynaliadwyedd ariannol gyda dau siaradwr, Mr Martin Lewis a’r Athro Mark Smith, Is-Ganghellor Prifysgol Caerlŷr a Chadeirydd Grŵp Cynaliadwyedd Ariannol HEFCE. Canolbwyntiodd Mr Lewis ar y system cefnogi myfyrwyr a ffioedd, a’i brif bryder oedd canfyddiadau a ffydd yn y system cyfraniadau graddedigion; siaradodd yr Athro Smith am iechyd ariannol prifysgolion Lloegr, a ystyrir yn sefydlog ar y cyfan, er bod gwahaniaethau enfawr ar draws y sector.
  • Nodwyd bod digwyddiad GW4 ar 1 Tachwedd 2017 wedi cael ei drefnu’n dda a bod is-gangellorion GW4 wedi cytuno mai’r Athro Hugh Brady, Is-Ganghellor Prifysgol Bryste, fyddai cadeirydd nesaf Cyngor GW4.
  • Cafodd y Bwrdd Gysoniad o’r Rhagolwg Alldro i’r Datganiadau Ariannol ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben 31 Gorffennaf 2017, cymeradwyodd y Bwrdd y Rhagolwg Alldro ac argymell y dylai gael ei gymeradwyo i’r Pwyllgor Archwilio a’r cyngor.
  • Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol drafft, byddai rhai newidiadau i gyflwyniad yr Is-Ganghellor cyn i’r ddogfen fynd i’r Cyngor i gael cymeradwyaeth derfynol.
  • Adolygodd y Bwrdd ddrafft o gynllun ariannol bum mlynedd. Nodwyd bod y ffi dysgu £9,000 wedi’i mewnosod.  Byddai’r Cyngor nawr yn cael y cynllun drafft yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr.

Cyflwynwyd i’r Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol

  • Diweddariad Archwilio Mewnol
  • Diweddariad ar y System Arloesedd
  • Diweddariad misol Ymchwil ac Arloesedd
  • Diweddariad misol am y gweithgareddau ymgysylltu
  • Diweddariad Campws Arloesedd Caerdydd
  • Diweddariad ar yr amgylchedd allanol