Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 16 Hydref 2017

16 Hydref 2017
  • Nodwyd bod Gwobr Nobel am Ffiseg wedi’i dyfarnu i grewyr y synhwyrydd LIGO a chyfraniadau’r Grŵp Ymchwil Ffiseg Ddisgyrchol fel rhan allweddol o’r tîm LIGO.
  • Nodwyd bod yr Athro de Leeuw wedi cwrdd â chynrychiolwyr allweddol o KU Leuven ac y byddai Pennaeth yr Ysgol Fusnes yn cwrdd â’r Rheithor yn fuan.
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd ymateb Caerdydd i ymgynghoriad CCAUC ar gasglu data ar gyfer y fasged o nwyddau. Roedd y dull hwn yn cael ei argymell gan Adolygiad Diamond, ac roedd CCAUC yn ymgynghori ar gasglu data, oedd i ddigwydd yn flynyddol gan ddefnyddio gwybodaeth o wefannau sefydliadol neu ffynonellau cyhoeddedig eraill a’i darparu i sefydliadau i gadarnhau ei fod yn gywir.  Cytunwyd, yn amodol ar rai mân newidiadau, i gymeradwyo’r ymateb i’w gyflwyno i CCAUC.
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd adroddiad ar benderfyniadau’r bwrdd arholi i fyfyrwyr. Cytunwyd i gadarnhau’r camau unioni arfaethedig a derbyn adroddiad cynnydd ym mis Ionawr 2018.
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd gynllun gwaith Bwrdd Gweithredol y Brifysgol ar gyfer 2017/18. Mae’r papur yn rhoi manylion camau gweithredu pob aelod o’r Bwrdd yn ystod y flwyddyn i ddod, a byddai’n cael ei ddiweddaru ym mis Chwefror 2018 ac yn dod yn ôl i’r Bwrdd er mwyn adolygu’r cynnydd.
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd agenda ddrafft y Pwyllgor Llywodraethu i’w nodi.
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd agenda ddrafft y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau i’w nodi.

Cyflwynwyd i’r Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol

  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor
  • Adroddiad misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata
  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop
  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg