Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 18 Medi 2017

18 Medi 2017
  • Nodwyd bod yr Athro Allemann, Ms Sanders a’r Athro Thomas wedi mynychu Bwrdd GW4 ar 15 Medi 2017, a fu’n adolygu llwybrau posibl ar gyfer derbyn cyllid a ffigurau arfaethedig a ddaethai i law a bod y buddsoddiad cychwynnol o £2.3 miliwn i Adeiladu Cymunedau GW4 wedi arwain at £12 miliwn o arian ar ffurf grantiau ymchwil.
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd bapur ar y polisi Mynediad Agored a ddiweddarwyd. Cytunwyd ar y papur a byddai’n mynd ymlaen i’r Senedd ym mis Hydref.
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd sylwadau Caerdydd mewn ymateb i alwad y Pwyllgor Ymgynghorol Mudo am dystiolaeth ynghylch gweithrediad AEE yn y Deyrnas Unedig, a chytunodd y Bwrdd ag ef.
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd y newyddion diweddaraf ynghylch y gwasanaeth ymchwil a datblygu ar y cyd rhwng y Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Cyflwynwyd i’r Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol

  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop
  • Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata