Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 4 Medi 2017
4 Medi 2017- Nodwyd bod stondin y Brifysgol yn yr Eisteddfod wedi derbyn sylw da.
- Nodwyd bod dyfarniad o Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang yr EPSRC wedi’i sicrhau i gefnogi gweithgareddau ymchwil gyda Phrifysgol Namibia.
- Nodwyd y dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ernest Rutherford STFC i David Alonso yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.
- Nodwyd llwyddiant y tair ysgol haf ryngwladol gyda thros 110 o fyfyrwyr yn mynychu a drefnwyd gan Goleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ac y byddai hyn yn cael ei gyflwyno ar draws y Coleg.
- Nodwyd bod dros £4.5 miliwn o addunedau newydd wedi’u derbyn yn ystod 2016/17, oedd yn rhagori ar y targed Datblygu a Chyn-fyfyrwyr o £2.5 miliwn.
- Nodwyd bod Llywodraeth Cymru’n symud ymlaen ar brentisiaethau gradd.
- Llongyfarchodd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol Ilona Johnson o’r Ysgol Deintyddiaeth sydd wedi derbyn Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol.
- Nodwyd bod cynghrair Academaidd Prifysgolion y Byd wedi gosod y Brifysgol ymhlith 100 prifysgol gorau’r byd ac yn y 10 uchaf yn y DU.
- Nodwyd bod y trafodaethau cychwynnol ar Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 newydd eu cyhoeddi gan y Cynghorau Ymchwil ac y byddai papur yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd yr wythnos nesaf yn amlinellu’r meysydd allweddol. Byddai’r Athro Thomas yn siarad ymhellach gyda Dirprwy Is-Gangellorion y Colegau ynghylch annog ceisiadau am rolau Cadeiryddion is-baneli gan staff oedd â phrofiad blaenorol o baneli.
- Cafodd y Bwrdd y drafftiau diweddaraf o Y Ffordd Ymlaen 2018-23 a’r is-strategaethau sydd wedi ystyried ymgynghoriad y bwrdd o adborth staff yn yr haf. Byddai’r strategaethau’n cael eu prawfddarllen yn derfynol ac yna eu cyflwyno i’r Cyngor i’w cymeradwyo.
- Cafodd y Bwrdd bapur oedd yn darparu dadansoddiad cychwynnol, lefel uchel, o berfformiad y Brifysgol yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol yn 2017.
- Cafodd y Bwrdd y Cynllun Gweithredol ar gyfer 2017/18 sy’n gosod amcanion lefel uchel, strategol y Brifysgol am y flwyddyn. Byddai’r adran ar REF yn cael ei hadolygu yng ngoleuni cyhoeddi penderfyniadau cychwynnol ar y REF. Yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo’r papur a fyddai wedyn yn mynd i’r Cyngor i’w nodi.
- Cafodd y Bwrdd ymateb drafft i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ‘Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus – Datblygu system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol ddiwygiedig’ ac fe’i hargymhellwyd i’r Cyngor ei gymeradwyo.
- Cafodd y Bwrdd gynnig i ddiwygio meysydd blaenoriaeth yr arolwg staff yng ngoleuni dadansoddiad pellach ac adborth gan grwpiau ffocws. Cymeradwyodd y Bwrdd feysydd blaenoriaeth diwygiedig yr arolwg staff sef (i) strategaeth a gwneud penderfyniadau, (ii) llesiant a (iii) cydweithio a chefnogi eraill.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Y newyddion diweddaraf am y System Arloesedd
- Adroddiad misol Ymchwil ac Arloesedd
- Adroddiad misol am y gweithgareddau ymgysylltu
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014