Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 10 Gorffennaf 2017

10 Gorffennaf 2017
  • Nodwyd bod Chris Jones, cadeirydd presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi’i gyhoeddi yn gadeirydd dros dro’r corff newydd, Addysg Iechyd a Gwella Cymru.
  • Nodwyd bod Cadeiryddion Prif Baneli REF wedi’u cyhoeddi’n ddiweddar.
  • Cafodd y Bwrdd strategaeth Y Ffordd Ymlaen 2018-2023, is-strategaethau ac adborth i’r ymgynghoriad. Byddai’r rhai a ysgrifennodd yr is-strategaeth yn adolygu’r adborth i’r ymgynghoriad, ac yn ystyried a oes angen diwygio’r is-strategaethau ymhellach.  Byddai’r Is-Ganghellor yn adolygu dros yr haf, ynghyd â’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI) terfynol, sy’n cael eu diwygio gan Gynllunio Strategol a’r Dirprwy Is-Gangellorion Thematig. Bydd y dogfennau terfynol yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd ar 4 Medi, i’w cytuno arnynt, cyn mynd at y Cyngor i’w cymeradwyo’n derfynol ar ddiwedd mis Medi.
  • Cafodd y Bwrdd bapur yn amlinellu proses a chanfyddiadau’r adolygiad o Ddeoniaid y Brifysgol, menter gan yr Is-Ganghellor a chyflwynwyd nifer o argymhellion. Cytunwyd y bydd cynllun pontio yn cael ei greu a’i gyflwyno i’r Bwrdd cyn mynd at y Senedd ym mis Hydref 2017.
  • Cafodd y Bwrdd bapur a oedd yn nodi bod adolygiad o weithdrefnau Dyrchafiad Academaidd wedi’i gwblhau, ac roeddynt yn edrych ar symleiddio’r broses a gwaith da y Grŵp Adolygu Gweithdrefnau Dyrchafiad Academaidd er mwyn gwella’r broses.
  • Cymeradwyodd y Bwrdd ymateb i ymgynghoriad drafft Strategaeth Gorfforaethol CCAUC 2017-2020.
  • Cafodd y Bwrdd ymateb y Brifysgol i ymgynghoriad CCAUC ar ymdrin â chwynion yn erbyn sefydliadau, a chymeradwywyd yr ymateb.
  • Cafodd y Bwrdd ddrafft o raglen ar gyfer y gynhadledd i uwch-staff a gofynnwyd i aelodau’r Bwrdd anfon unrhyw awgrymiadau o ran siaradwyr allanol a phynciau i’r cyfarfod.
  • Cafodd y Bwrdd bapur yn amlinellu’r cynnig i dreialu seremonïau yn ystod y gaeaf i fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir. Cytunodd y Bwrdd i dreialu hyn ym mis Ionawr 2018, gyda phapur pellach i’w gyflwyno i’r Bwrdd ym mis Mawrth 2018 i adrodd ar y cynllun peilot.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Diweddariad misol o geisiadau myfyrwyr
  • Adroddiad misol Rhyngwladol ac Ewrop y Dirprwy Is-Ganghellor
  • Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.