Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 3 Gorffennaf 2017

3 Gorffennaf 2017
  • Croesawyd Mr Rob Williams, y Prif Swyddog Ariannol newydd, i’w gyfarfod cyntaf gyda Bwrdd Gweithredol y Brifysgol.
  • Nodwyd bod y Sefydliad Ffiseg wedi dyfarnu medal yr Arglwydd Kelvin i Ms Wendy Sadler.
  • Gyda thristwch mawr nodwyd marwolaeth Syr Donald Walters, Dirprwy Ganghellor a chyn-Gadeirydd y Cyngor. Roedd ganddo gysylltiad hir a nodedig gyda’r Brifysgol ac roedd wedi parhau’n gefnogwr gweithgar a brwd o’r Brifysgol.
  • Nodwyd bod hysbyseb wedi’i gyhoeddi ar gyfer Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr ac Allgymorth newydd, ac y byddai goruchwylio’r gwaith o recriwtio myfyrwyr cartref a thramor ymysg cyfrifoldebau deiliad y swydd.
  • Cafodd y Bwrdd bapur a oedd yn dangos drafft o gynllun gweithredu Adolygiad Reid o Incwm Diwydiannol. Roedd y cynllun gweithredu hefyd yn cyfeirio at yr Adolygiad IP diweddar, ac yn ystyried sut y gallai gyd-redeg ag Adolygiad Reid. Cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo drafft o’r cynllun gweithredu ar gyfer y Cyngor ar 10 Gorffennaf 2017.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am ‘Arloesedd i Bawb,’ sef y cam cyntaf wrth ddatblygu achos busnes ar gyfer rhaglen traws-sefydliadol a fyddai’n egluro ystyr brand ‘Cartref Arloesedd’ i fyfyrwyr. Bydd yn dod â gweithgareddau presennol ar lefel y Brifysgol ac Ysgolion at ei gilydd yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd newydd. Cytunodd y Bwrdd i’r cynnig peilot ar gyfer rhaglen ‘Arloesedd i Bawb’ 2017/18.
  • Cafodd y Bwrdd ddrafft o gais a chynllun gweithredu’r Nod Siarter Cydraddoldeb Hiliol efydd, a chymeradwywyd y cais.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Adroddiad chwarterol datblygu a chysylltiadau cynfyfyrwyr
  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd
  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
  • Adroddiad misol yr Ystadau
  • Y newyddion diweddaraf am yr amgylchedd allanol