Helpu llywodraethau a gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â phrif heriau ym maes polisi
28 Mehefin 2017Yr wythnos hon, cawsom wybod y bydd Prifysgol Caerdydd yn gartref i ganolfan ymchwil newydd gwerth £6m. Bydd y ganolfan yn gwneud yn siŵr bod y dystiolaeth orau ar gael ar gyfer llywodraethau a gwasanaethau cyhoeddus i’w helpu i fynd i’r afael â phrif heriau polisi yr oes sydd ohoni.
Mae Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) wedi ariannu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am bum mlynedd a bydd ganddi rôl bwysig wrth annog ymarfer proffesiynol a pholisïau i gael eu llunio ar sail tystiolaeth.
Bydd ein hacademyddion, dan arweiniad yr Athro Steve Martin, yn adeiladu ar waith gwych y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ac yn gweithio gyda phrifysgolion ledled y byd. Bydd y materion polisi allweddol yn cynnwys Brexit, cefnogi twf a ffyniant, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad addysg, a sut caiff y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol ei ariannu yn y dyfodol.
Gellir dadlau nad yw llywodraethau a’r gwasanaethau cyhoeddus erioed wedi’u craffu i’r fath raddau nac ychwaith wedi bod o dan gymaint o bwysau. Mae’r ganolfan newydd hon dan ein harweiniad yn rhoi’r cyfle i ni leddfu rhywfaint ar y pwysau hynny, drwy greu syniadau newydd a ffyrdd newydd o fynd i’r afael â phroblemau drwy ddefnyddio tystiolaeth gadarn a dibynadwy.
Rwy’n falch iawn ein bod wedi ein dewis ar gyfer y ganolfan hon. Mae hyn nid yn unig yn dangos y parch amlwg a roddir i’n gwaith ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol, mae hefyd yn rhoi’r cyfle i ni wneud gwahaniaeth go iawn a allai fod o fudd i’r holl sectorau yn ein cymdeithas. Rhaid diolch i gydweithwyr yn yr Ysgol Busnes, yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a’r Ysgol Deintyddiaeth am eu cyfraniad at y cais.
Mae gennym gymuned eang o ysgolheigion sy’n gallu gwneud cyfraniad go iawn i’r ganolfan newydd hon – gallwch gysylltu â Steve Martin i gael rhagor o wybodaeth. Byddwn yn hysbysebu swyddi cyn hir am ymchwilwyr ar bob lefel hyd at ddarllenydd – bydd rhagor o fanylion ar gael ar-lein.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014