Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 13 Chwefror 2017

13 Chwefror 2017
  • Ymunodd Dr Tim Bradshaw, Cyfarwyddwr dros dro Grŵp Russell, â’r Bwrdd ar gyfer yr eitem gyntaf. Amlinellodd Dr Bradshaw y materion polisi allweddol presennol ar gyfer Grŵp Russell, a oedd yn cynnwys y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil, TEF, REF, Brexit, a fisâu a mewnfudo.
  • Nodwyd bod yr ymgeisydd a ddewiswyd ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Cyllid wedi derbyn y cynnig, a bod trafodaethau ar y gweill ynglŷn â’i ddyddiad dechrau.
  • Cafodd y Bwrdd yr achos busnes ar gyfer sefydlu Canolfan Polisïau Cyhoeddus Cymru. Roedd ESRC wedi cyhoeddi cystadleuaeth i sefydlu a chynnal Canolfan Polisïau Cyhoeddus Cymru, wedi’i hariannu ar y cyd gan ESRC a Llywodraeth Cymru drwy ddyfarniad £6.1M dros 60 o fisoedd. Byddai’r ganolfan yn disodli rôl y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.  Cytunwyd y dylid cymeradwyo cyflwyno’r cynnig i sefydlu a chynnal Canolfan Polisïau Cyhoeddus Cymru.
  • Cafodd y Bwrdd gynnig i sefydlu Cronfa Rhwydweithiau Ymchwil y Brifysgol. Tynnwyd sylw at ba mor bwysig yw parhau i gynnal ymchwil ryngddisgyblaethol, a nodwyd bod gan rwydweithiau o’r fath gost isel ond gwerth uchel, am eu bod yn creu cyfleoedd ymchwil, ac yn hwyluso gweithgareddau ar draws Colegau.  Cytunodd y Bwrdd i sefydlu cronfa dros ddwy flynedd i gefnogi’r gwaith o sefydlu Rhwydweithiau Ymchwil yn y Brifysgol, ac o werthuso llwyddiant y fenter.
  • Cafodd y Bwrdd achos busnes ar gyfer ehangu’r cynllun mentora gan gyfoedion i’r holl fyfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn gyntaf. Nodwyd bod y Cynllun Mentora Myfyrwyr wedi’i beilota mewn 11 o Ysgolion, a bod Ysgolion eraill yn dymuno mabwysiadu’r cynllun am ei fod yn helpu o ran cadw myfyrwyr, ond nad oedd cyllideb Gwasanaethau Proffesiynol yn caniatáu ehangu’r cynllun i bob Ysgol.  Mae’r achos yn cynnig y dylid gwneud cais i gynllun Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru, ac os yw’n llwyddiannus, byddai gofyn i’r Brifysgol ad-dalu’r benthyciad di-log ymhen tair blynedd.  Cytunwyd y dylid cymeradwyo cyflwyno’r cais, ac y byddai unrhyw gynllun y tu hwnt i’r cyfnod tair blynedd yn ddibynnol ar lwyddiant y Cynllun Mentora Myfyrwyr, ac y byddai llinell sylfaen yn cael ei phennu, ynghyd â digon o amser i fonitro a gwerthuso.
  • Mewn ymateb i nifer gynyddol o geisiadau i godi baneri ar adeiladau’r Brifysgol, datblygwyd canllawiau i ffurfioli protocol y Brifysgol. Yn amodol ar rai mân ddiwygiadau, cafodd y protocol ei gymeradwyo.
  • Cafodd y Bwrdd y newyddion canol blwyddyn ynglŷn â’r Cynllun Gweithredol.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.
  • Adroddiad misol Rhyngwladol ac Ewrop y Dirprwy Is-Ganghellor
  • Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata