Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Cefnogi’r Arwyr Di-glod

8 Chwefror 2017

Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai pwysig a chalonogol o safbwynt hyrwyddo a chefnogi menywod yn STEM.

Braf iawn oedd clywed yr wythnos ddiwethaf bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o’r argymhellion yn yr adroddiad Menywod Talentog ar gyfer Cymru Lwyddiannus y gwnes i a’r Athro Hilary Lappin-Scott o Brifysgol Abertawe ei ysgrifennu.

Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar bedair brif thema addysg, recriwtio, cadw a hyrwyddo. Roeddwn yn arbennig o falch o weld y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yn dangos ei chefnogaeth ar gyfer cynyddu cynrychiolaeth menywod yn y maes a’i wneud yn thema mewn polisïau addysgol, rhaglenni ymarfer dysgu, diwygio’r cwricwlwm, prentisiaethau ac ariannu addysg bellach ac addysg uwch.

Yma yn y Brifysgol, rydym yn parhau i weithio’n galed i wella’r cydbwysedd rhwng dynion a menywod mewn rhaglenni STEM drwy rwydwaith Athena SWAN, ein gweithgareddau allanol ac ymgysylltu, yn ogystal â Rhwydwaith Menywod Caerdydd yn STEM. Rydw i wedi sôn droeon am fy ymrwymiad personol i wneud yn siŵr nad oes unrhyw gyfyngiadau ar ddyheadau a chyflawniadau menywod a merched mewn pynciau STEM, ac mae mor braf gweld ein cyfeillion yn Llywodraeth Cymru yn rhannu’r un ymrwymiad.

Bues i hefyd yn ddigon ffodus i allu mynd i weld dangosiad cyntaf y ffilm newydd, Hidden Figures, yr wythnos ddiwethaf. Mae’n adrodd hanes tair menyw ragorol o dras America-Affricanaidd yn gweithio yn NASA a fu’n gyfrifol am un o’r prosiectau mwyaf eithriadol yn hanes.

Cyn y ffilm, roeddwn yn rhan o banel o fenywod oedd yn cynnwys gwyddonwyr a pheirianwyr fu’n siarad â chynulleidfa o ferched difreintiedig o ysgolion ym Manceinion. Ein nod oedd ategu’r neges nad yw hil, rhyw neu ddosbarth cymdeithasol yn mynd i’w rhwystro rhag cyflawni eu dyheadau.

Fe weithiodd Katherine G. Johnson, Dorothy Vaughan a Mary Jackson ar brosiect lansio’r gofodwr John Glenn i orbit. Fe lwyddon nhw i oresgyn adfyd a rhwystrau o ran hil a rhyw i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ddilyn eu breuddwydion. Mae’r ffilm wedi’i henwebu ar gyfer Oscar am y Ffilm Orau ac, ar sail ymateb nifer o’r merched a’u hathrawon iddi, mae’n fwy na phosibl y bydd yn cipio’r wobr.