Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Rhagfyr 2016

21 Rhagfyr 2016

Annwyl gydweithiwr

Mae fel petai pob papur newydd rydw i’n ei ddarllen y dyddiau yma yn tueddu i gynnwys erthygl sy’n sôn, unwaith eto, am ba mor wael, trawmatig ac anodd oedd 2016. Mae’n dibynnu ar eich safbwynt, wrth gwrs. Fodd bynnag, er iddi gynnig cymysgedd o newyddion da a gwael i ni fel prifysgol, daeth y flwyddyn i ben gyda newyddion cadarnhaol.

Dim ond ychydig ddyddiau yn ôl, fe gawsom y newyddion gwych bod ein Canolfan Bywyd y Myfyrwyr wedi cael caniatâd cynllunio. Mae hwn yn brosiect strategol hollbwysig fydd yn cryfhau’r ymdeimlad o ‘gampws’ yn y Brifysgol. Bydd hefyd yn dod â mwy neu lai ein holl wasanaethau myfyrwyr ynghyd yn yr un adeilad gan olygu bydd yr holl gymorth sydd ei angen ar fyfyrwyr ar gael yn yr un lle. Bydd hefyd yn ein galluogi i gydweithio hyd yn oed yn agosach ag Undeb y Myfyrwyr fydd â’i mynediad amlwg a hwylus ei hun yn y ganolfan newydd.  Byddwn yn gallu cynnal digwyddiadau cyhoeddus yn y ddarlithfa fawr newydd, a bydd llu o gyfleusterau sy’n ymateb i anghenion y myfyrwyr. Pan gefais fy mhenodi’n Is-ganghellor yn 2012, efallai y cofiwch i mi ofyn i Undeb y Myfyrwyr gynnal arolwg o’i aelodau er mwyn i ni wybod ym mha feysydd yr oeddent am i ni fuddsoddi ynddynt: mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr wedi deillio’n uniongyrchol o’r broses honno, felly rydw i’n hyderus y byddwn yn rhoi’r cyfleusterau sydd eu hangen. Disgwylir i’r adeilad newydd agor yn 2019, ond bydd y prosiect yn gweddnewid y gefnogaeth a roddwn i’n myfyrwyr ar-lein, felly dylem ddechrau weld y manteision cyn hynny.

Roeddwn hefyd wrth fy modd o weld ein bod wedi cael grant o £10m gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol i greu canolfan gweithgynhyrchu ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd. Bydd Caerdydd yn arwain y prosiect gyda Choleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Manceinion a Phrifysgol Sheffield yn bartneriaid academaidd. Bydd amrywiaeth o bartneriaid diwydiannol hefyd, gan gynnwys IQE, ein prif bartner cydweithio. Mae hyn yn llwyddiant o bwys i’n strategaeth lled-ddargludyddion cyfansawdd, a rhaid llongyfarch yr Athro Peter Smowton, y Prif Ymchwilydd, a’r holl dîm a chwaraeodd ran. Bydd gan Ganolfan Gweithgynhyrchu EPSRC ar gyfer Lled-ddargludyddion y Dyfodol rôl hollbwysig yn natblygiad technolegau newydd fel rhwydweithiau 5G a cheir sy’n gyrru eu hunain, ac rydw i’n ddiolchgar dros ben i ESPRC am y ffydd y maent wedi’u rhoi yn y Brifysgol.

Ar y cyfan, mae’r dyfodol yn edrych yn fwy addawol o’i gymharu â’r sefyllfa ychydig fisoedd yn ôl. Mae canlyniad Adolygiad Diamond ynghylch y gefnogaeth a roddir i fyfyrwyr a sut caiff prifysgolion eu hariannu yn rhoi rheswm i ni fod yn obeithiol ynghylch cynaliadwyedd y sector yng Nghymru yn y dyfodol. Mewn sawl ffordd, bydd yn creu system sydd ymhlith y rhai mwyaf blaengar yn y byd o ran cefnogi myfyrwyr, ac mae’n sicr yn rhoi manteision na all gwledydd eraill y Deyrnas Unedig eu cynnig. Tra bod Lloegr wedi diddymu grantiau cynhaliaeth, bydd pob myfyriwr yng Nghymru yn cael o leiaf rhywfaint o gymorth ariannol nad oes rhaid ei ad-dalu, a bydd y rhai sydd ei angen fwyaf yn cael grant sydd wedi’i chysylltu â’r cyflog byw. Yr un mor bwysig, caiff prifysgolion Cymru eu hariannu i roi’r addysg y mae ein myfyrwyr yn eu haeddu a’r ymchwil sydd ei hangen ar y wlad. Unwaith eto, proses raddol o newid fydd hon dros nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn haeddu clod aruthrol am ystyried anghenion addysg uwch ein gwlad mewn modd strategol, cymdeithasol-gyfiawn a phellgyrhaeddol. Yn y pen draw, bydd hyn yn helpu i roi Cymru gam ar y blaen.

Yma yn y Brifysgol, hoffwn longyfarch yr Athro Elizabeth Treasure, y Rhag Is-ganghellor, sydd wedi’i phenodi’n Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth. Bydd yn golled fawr i Gaerdydd lle mae wedi gwneud cyfraniad aruthrol fel dirprwy i David Grant yn y lle cyntaf, ac yna i mi ers fy mhenodiad. Fodd bynnag, bydd Aberystwyth ar ei hennill ac rydw i’n gwybod y bydd Elizabeth yn gwneud gwaith rhagorol. Rydym yn ffodus ei bod am aros yng Nghymru ac, ar ran y Brifysgol gyfan, hoffwn ddymuno’r gorau iddi pan fydd yn dechrau ei swydd newydd ym mis Ebrill.

I orffen, hoffwn ddiolch i chi gyd am eich gwaith caled a’ch ymroddiad yn ystod cyfnod anodd. Nadolig llawen a Blwyddyn Newydd hapus a heddychlon i chi gyd, heb anghofio’r staff fydd yn cynnal diogelwch, TG a phrosesau eraill y Brifysgol yn ystod y gwyliau. Rydym yn gwerthfawrogi eich gwaith yn fawr a hoffwn ddiolch i chi’n arbennig ar ran pob un ohonom.

Cofion gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor