Blwyddyn ers sefydlu’r Academi Meddalwedd Genedlaethol
24 Tachwedd 2016Y mis hwn oedd pen-blwydd cyntaf a lansiad Academi Meddalwedd Genedlaethol Prifysgol Caerdydd yng Nghasnewydd, a gafodd ei groesawu gan Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Mae’r Academi’n cynnig rhaglen radd arloesol lle mae myfyrwyr yn cydweithio â pheirianwyr meddalwedd profiadol o sefydliadau blaenllaw ar brosiectau go iawn dros dair blynedd y cwrs.
Mae’n rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr o weithio yn y maes, ac hefyd yn rhoi sgiliau iddynt baratoi at weithio ar ôl graddio. Dywedodd un o’r myfyrwyr ei bod yn teimlo ei bod yn cael y ‘profiad’ llawn o fod ym Mhrifysgol Caerdydd, a’i bod yn byw yng Nghaerdydd ac yn teithio i Gasnewydd bob dydd, fel pe bai ganddi swydd, a oedd yn ei hyfforddi i gael y ddisgyblaeth sydd ei hangen i fynd i’r gwaith.
Mae cyfrifiadureg yn cwmpasu nifer fawr o swyddi, y tu hwnt i swyddi rhaglennu sylfaenol, ac mae’n ddiwydiant sy’n annog pobl i fod yn greadigol ac i arloesi. Mae gyrfa ym maes cyfrifiadureg yn hynod gyffrous a boddhaus, ac mae galw mawr am raddedigion – yn ôl ymchwil ddiweddar gan The Tech Partnership, mae dros 50% o fusnesau yn y sector digidol yn adrodd eu bod yn cael trafferth llenwi rhai swyddi.
Gwnaeth adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn 2012 nodi’r angen am 3,100 o weithwyr proffesiynol TG bob blwyddyn er mwyn ateb y galw sydd ohono, ac mae’r Academi Meddalwedd Genedlaethol yn llenwi rhywfaint o’r bwlch hwn.
Fodd bynnag, mae problem sylfaenol sydd angen ei datrys os ydym am gyrraedd y niferoedd hyn, a hynny yw bod diffyg merched yn camu i’r maes. Mae’r Academi’n mynd yn groes i’r duedd hon, gyda chymhareb 50:50 o ddynion a menywod ymhlith y staff, a nifer uwch na’r cyffredin o ferched ymhlith y myfyrwyr israddedig – ond mae’r broblem yn systemig, ac mae’n rhaid gwneud rhagor i argyhoeddi merched bod gyrfa mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn gyffrous, boddhaus ac yn arwain at gyflog da.
Y mis hwn, daeth 60 o ferched o ledled De Cymru i Brifysgol Caerdydd i ddysgu mwy am yrfa mewn rhaglennu cyfrifiaduron a seiberddiogelwch, ac mae cael merched allan o’r ystafell ddosbarth ac i mewn i amgylchedd ysbrydoledig fel hwn yn allweddol i ennyn eu chwilfrydedd a dangos buddion gyrfa ym maes cyfrifiadureg a STEM yn fwy cyffredinol.
Ein her nesaf yw dod o hyd i adeilad newydd ar gyfer yr Academi, wrth i’r niferoedd dyfu’n gyflym, er mwyn sicrhau bod modd i’r myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol fod yn yr un man.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014