Meithrin partneriaethau ag India
16 Tachwedd 2016Bydd system addysg uwch India yn wynebu cyfnod o drawsnewid digynsail dros y degawd nesaf, a bydd angen degau o filiynau o leoedd prifysgol newydd i ddiwallu anghenion y boblogaeth ifanc sy’n tyfu’n gyflym. Mae’r awydd i gydweithio’n rhyngwladol ym maes addysg ac ymchwil yn gryf iawn mewn sefydliadau yn India, a rhagwelir y bydd cynnydd yn yr arian ymchwil sydd ar gael iddynt. Mae hwn yn cynnig cyfleoedd gwych i Brifysgol Caerdydd ddatblygu ein partneriaethau sefydliadol yn y rhanbarth, ac rydw i, ynghyd â chydweithwyr o Goleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, newydd ddychwelyd o ymweliadau defnyddiol iawn â phedwar sefydliad: IIT Ropar, IISER Mohali, BITS Pilani ac IIT Madras.
Y testunau a oedd uchaf ar yr agenda gyda phob un o’r tri sefydliad oedd cydweithio ar ymchwil, datblygu rhaglenni PhD cydweithredol, ymweliadau â chyfadrannau, a symudedd myfyrwyr, ac rydym wedi ymrwymo i wneud gwaith mapio o’n cyfadrannau a’n diddordebau ymchwil, gyda’r nod o ddatblygu cynigion ar y cyd ar gyfer cynlluniau megis y Fenter Fyd-eang o Rwydweithiau Academaidd (GIAN), Cronfa Newton Bhabha, Ysgoloriaethau Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad ar gyfer Doethuriaethau ar Fwy nag Un Safle a’r Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang.
O ran defnyddio ein hadnoddau mewnol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu partneriaethau â’r sefydliadau hyn, roedd gan IIT Ropar, er enghraifft, ddiddordeb mawr mewn croesawu grwpiau o fyfyrwyr Caerdydd i’w champws newydd ar raglenni haf newydd dan arweiniad academyddion. Mae hwn yn rhywbeth y gellid ei gefnogi drwy ein harian symudedd ein hunain dan arweiniad Ysgolion Academaidd, sydd wedi’i reoli gan y tîm Cyfleoedd Byd-eang. Yn yr un modd, mae ein cynlluniau mewnol ar gyfer datblygu trefniadau i gydweithio ar ymchwil yn rhyngwladol, y Gronfa Sbarduno Cydweithio Rhyngwladol, yn bodoli i gefnogi staff academaidd a myfyrwyr PhD i ehangu’r partneriaethau hyn.
Wrth ddatblygu partneriaethau rhyngwladol mae’n bwysig iawn cynnal momentwm ar lefel academyddion unigol ac ar lefel sefydliadol, ac rydw i’n hynod falch, felly, y bydd ein cysylltiadau ag India’n cael eu meithrin ymhellach mewn ymweliad gan grŵp o gynrychiolwyr o Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ar 4-10 Rhagfyr. Mae’r sefydliadau y byddant yn ail-ymweld â nhw yn cynnwys IIT Ropar, IISER Mohali, a BITS Pilani (campws Hyderabad), ac ar ôl hynny bydd y grŵp yn ymweld â IIS Bangalore a sefydliad iSTEM Bangalore.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014