Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 14 Tachwedd 2016

14 Tachwedd 2016
  • Cafodd y Bwrdd adroddiad gan yr Athro John Goddard, Prifysgol Newcastle, ynglŷn â gweithgarwch arloesedd ac ymgysylltu Prifysgol Caerdydd, a gafodd ei gomisiynu gan yr Is-Ganghellor i helpu i lywio’r fersiwn nesaf o’r strategaeth.
  • Nodwyd bod y digwyddiad Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth yn cael ei gynnal ar 17 Tachwedd 2016, a bod Ms Dowden yn cyflwyno’r digwyddiad. Mae nifer o ddigwyddiadau blaenllaw ymlaen ar yr un noson, gan gynnwys lansiad y bartneriaeth strategol â Phrifysgol Xiamen, a darlith gyhoeddus gan Laura Tenison. Nodwyd bod yr Adran Cyfathrebu a Marchnata yn gweithio ar galendr digwyddiadau er mwyn sicrhau nad yw digwyddiadau’n cael eu cynnal ar yr un pryd, ac i sicrhau y gellir trefnu cynrychiolaeth gan y Bwrdd yn nigwyddiadau.
  • Nodwyd bod pennawd ar dudalen flaen South Wales Echo am y ffaith bod caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer dau adeilad arloesedd newydd.
  • Nodwyd bod ‘Project Search’ wedi cael ei lansio’n llwyddiannus.  Prosiect rhyngwladol yw Project Search, sy’n cynnig swyddi a chyfleoedd i ddysgu i bobl ifanc ag anableddau, ac mae’r Brifysgol yn cynnig 12 o interniaethau.
  • Gyda thristwch mawr, nodwyd bod y cyn Is-Ganghellor, Syr Aubrey Trotman-Dickenson, a chwaraeodd ran flaenllaw yn natblygiad y Brifysgol ac a oedd yn gyfrifol am uno Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru/Coleg Prifysgol Caerdydd, wedi marw. Pan oedd yn Is-Ganghellor, gosododd y sylfaeni cadarn sydd gan y Brifysgol heddiw, a chofiwyd ei gyfraniadau.
  • Nodwyd bod y cyflwyniad cyfan i’r TEF, sef y llyfr metrigau a dogfen naratif, yn mynd i gael ei gyflwyno ar 26 Ionawr 2017.  Dylai’r naratif fod yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mae gan Brifysgolion Cymru gyfle i gyflwyno gwybodaeth sy’n amlinellu’r cyd-destun yng Nghymru; gallai sefydliadau roi tystiolaeth ychwanegol am ragoriaeth yn seiliedig ar ffeithiau, nid bwriadau.
  • Cafodd y Bwrdd ymateb ysgrifenedig y Brifysgol i’r adolygiad a gynhaliwyd gan yr Athro Graeme Reid ynglŷn ag incwm diwydiannol, a fydd yn cael ei gyflwyno gydag adroddiad yr Athro Reid i’r Cyngor ar 28 Tachwedd 2016.
  • Cafodd y Bwrdd ymateb y sefydliad i Gyflwyniad Ysgrifenedig y Myfyrwyr.  Cytunwyd y dylid rhannu’r ymateb, gyda mân ddiwygiadau, â Llywydd Undeb y Myfyrwyr cyn i’r Cyngor gael y cyflwyniad.
  • Cafodd y Bwrdd fersiwn ddiwygiedig o adroddiad London Economics i effaith cymdeithasol ac economaidd Prifysgol Caerdydd gan ddefnyddio data 2014/15.
  • Cafodd y Bwrdd ymgynghoriad  Datblygu Strategaeth Addysg Uwch i Gymru gan CCAUC.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata
  • Adroddiad misol Rhyngwladol ac Ewrop y Dirprwy Is-Ganghellor