Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Rhwydwaith staff rhyngwladol

2 Tachwedd 2016
if
if

Roedd yn bleser cael gwahoddiad i ddweud ychydig eiriau i agor digwyddiad lansio Rhwydwaith Staff Rhyngwladol newydd y Brifysgol fis diwethaf. Fel y dywedodd yr Athro Nora de Leeuw yn ei blogiad diweddaraf, sefydliad rhyngwladol ydyn ni – ac rydym yn falch ohono. Mae gennym fwy na 7,500 o fyfyrwyr rhyngwladol, a staff o fwy na 78 o wledydd.

Mae’r rhwydwaith staff hwn yn ganlyniad rhaglen Dyfodol Caerdydd.  Hyd yn oed yn ystod y cyfnod cynnar hwn, mae’r rhwydwaith wedi recriwtio bron i 50 o aelodau staff o 29 o wledydd ar draws y byd i weithredu fel pwynt cyswllt a mentoriaid i aelodau staff newydd.  Mae gen i brofiad uniongyrchol o ba mor werthfawr yw cydweithio rhyngwladol yn fy ngwaith fy hun, ar ôl cyhoeddi gwaith gyda chydweithwyr o wledydd sy’n cynnwys yr Unol Daleithiau, Colombia, yr Almaen, Tsieina a Chatalonia.

Mae gwaith y rhwydwaith staff rhyngwladol yn arbennig o bwysig. Nid yn unig yw’r rhwydwaith yn ein galluogi i ddathlu ein hunaniaeth ryngwladol a’r gymuned amrywiol y mae gennym y fraint o weithio ynddi yng Nghaerdydd, mae hefyd yn rhoi cyfle i’n staff rhyngwladol ddod at ei gilydd i rannu profiadau a chefnogi ei gilydd.

Mae’r modd yr ydym yn ymgysylltu â’n cydweithwyr (a myfyrwyr) rhyngwladol erioed wedi bod yn bwysicach nag yn y misoedd diwethaf.  Er bod ansicrwydd o hyd yn sgil canlyniad y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, yr hyn y gallwn fod yn sicr ohono yw mai sefydliad rhyngwladol a chyfeillgar ydyn ni, sy’n croesawu ac yn hybu amrywiaeth, ac mae angen i’n staff presennol a darpar staff fod yn hyderus yn hynny o beth.

International Staff Netwrok Project Leaders

Bydd rhwydweithiau fel hwn yn gwneud llawer i gefnogi ein staff rhyngwladol presennol a rhai newydd sy’n cyrraedd. Hoffwn longyfarch a diolch i Monika Hennemann, Stephen Man, Christopher Jones a Carlos Ugalde Loo am eu gwaith caled wrth sefydlu hwn. Edrychaf ymlaen at weld y rhwydwaith yn datblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.