Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Yr Haf Arloesedd

20 Hydref 2016

A ninnau wedi ffarwelio â’r haf, mae’n werth myfyrio ar ein dathliad o bartneriaethau sy’n dod ag ymchwilwyr a’u hyrwyddwyr ynghyd.

Nod yr Haf Arloesedd oedd amlygu’r gwaith ar draws tri choleg Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys datblygu technolegau meddygol arloesol a datrys problemau gwasanaethu cyhoeddus drwy gynnal ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol.

Cynhaliwyd dros 20 o ddigwyddiadau ei ennyn diddordeb myfyrwyr, staff, rhanddeiliaid allanol a’r cyhoedd yn ein gwaith arloesedd.

Un o’r uchafbwyntiau oedd agor Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd ym mis Mehefin Cafodd Ei Mawrhydi’r Frenhines ei thywys o amgylch y ganolfan a gostiodd £44m i’w hadeiladu, ac sy’n gartref i gyfuniad o gyfarpar niwroddelweddu sy’n unigryw yn Ewrop. Daeth y gwneuthurwr ceir Aston Martin ag ychydig o foethusrwydd i’r Gwobrau Arloesedd ac Effaith y Brifysgol yn ddiweddarach yn y mis. A chafodd gwaith y Brifysgol ar wenyn, dan arweiniad yr Athro Les Baillie o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, sylw yn y penawdau cenedlaethol wrth i ymchwilwyr geisio darganfod a oes gan wenyn yng Nghymru acenion ‘rhanbarthol’.

Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb a gymerodd ran yn yr Haf Arloesedd – ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl oni bai amdanoch chi.

Rydym yn gwerthuso llwyddiant ein ymgyrch arloesedd ac yn annog pawb i rannu eu barn am arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd – a’r Haf Arloesedd – drwy gwblhau arolwg dwy funud a chael y cyfle i ennill taleb £50.