Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 17 Hydref 2016

17 Hydref 2016
  • Nodwyd bod diwrnod Porth Cymunedol llwyddiannus wedi’i gynnal yn Grangetown ar 15 Hydref 2016, a bod y gymuned leol wedi chwarae rhan amlwg ynddo.
  • Nodwyd y byddai rhifyn nesaf Blas yn gwahodd pob aelod o staff i gymryd rhan mewn munud o dawelwch am 9.15am ar 21 Hydref 2016 i gofio trychineb Aberfan, 50 mlynedd yn ôl.
  • Nodwyd bod y Brifysgol wedi noddi’r Wobr Rheithgor Ieuenctid am y Ffilm Fer Orau yng Ngŵyl Ffilmiau Iris.
  • Cafodd y Bwrdd y fersiwn ddiweddaraf o’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf, a nodwyd yr hyn a oedd yn newydd ynddi.
  • Cafodd y Bwrdd yr adroddiad interim Mannau Dysgu Ffisegol y gofynnodd y Cyngor amdano. Rhoddodd y Bwrdd gymeradwyaeth i barhad y rhaglen, a chytunwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei anfon ymlaen at y Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau a’r Cyngor.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am faint a siâp y Brifysgol, a thrafodwyd y boblogaeth bosibl o fyfyrwyr sefydliadol a addysgir yn y dyfodol.
  • Cafodd y Bwrdd bapur a oedd yn amlinellu cylch gorchwyl Grŵp Perfformiad Academaidd newydd y Brifysgol.
  • Cafodd y Bwrdd y polisi gwrth-lwgrwobrwyo drafft. Cytunwyd y byddai’r papur, yn amodol ar fân ddiwygiadau, yn cael ei argymell i’r Pwyllgor Llywodraethu a’r Cyngor er mwyn iddo gael ei fabwysiadu a’i roi ar waith.
  • Cafodd y Bwrdd y fersiwn ddiweddaraf o’r gofrestr Brexit. Roedd y gofrestr yn nodi risgiau a chyfleoedd posibl yn sgil penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r gofrestr yn ddogfen weithio a fydd yn cael ei diweddaru o dro i dro.
  • Cafodd y Bwrdd ei hysbysu am gabinet cysgodol newydd y Blaid Lafur.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd