Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Nifer uchaf erioed o redwyr yn yr hanner marathon

28 Medi 2016
(Photo by Matthew Horwood / matt-horwood.com)
(Photo by Matthew Horwood / matt-horwood.com)

Mae 22,000 o bobl, y nifer uchaf erioed, wedi cofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd a gynhelir ddydd Sul, ac mae 3,000 yn ychwanegol wedi cofrestru ar gyfer cyfres o rasys llai heriol ddydd Sadwrn. Ni yw prif noddwyr yr hanner marathon hwn. Erbyn hyn, mae’n un o uchafbwyntiau’r calendr chwaraeon yng Nghymru ac mae wedi ennill ei blwyf fel yr ail hanner marathon mwyaf yn y DU, ar ôl y Great North Run. Bydd gweld pawb yn rhedeg o gwmpas strydoedd ein dinas fore Sul, gyda’r torfeydd mawr a brwdfrydig yn eu gwylio yn ôl yr arfer, yn dipyn o olygfa.

Bydd 200 o staff, myfyrwyr a chynfyfyrwyr sy’n rhan o #TîmCaerdydd ymysg y rhai fydd yn rhedeg. Cafodd y rhain leoedd yn rhad ac am ddim ar ôl addo codi £150, neu £100 ar i fyfyrwyr, ar gyfer achosion gwerth chweil y Brifysgol – ymchwil canser neu niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl. Hoffwn ddiolch i bawb holl redwyr #TîmCaerdydd am eu cefnogaeth ar gyfer gwaith y Brifysgol.

(Photo by Matthew Horwood / matt-horwood.com)

I’r rhai ohonom sy’n llai parod i redeg 13 milltir, bydd rasys a gweithgareddau llai heriol yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn cyn y prif ddigwyddiad ddydd Sul. Bydd rasys ar gyfer pob oed a lefel ffitrwydd yn rhan o’r Ŵyl Redeg a’r Ras Hwyl i’r Teulu. Bydd ras hwyl y myfyrwyr yn uchafbwynt, ac rydw i’n edrych ymlaen yn arbennig at weld perfformiad ein masgot ni, Dylan y Ddraig, yn ras y masgotiaid.

Bydd y rhai sy’n rhedeg yn gwerthfawrogi ymdrechion y llu o stiwardiaid sydd eu hangen ar gyfer digwyddiad o’r maint hwn. Byddant yn gweithio’n galed yn y gorsafoedd dŵr, ar linell gychwyn a gorffen y ras, ac o amgylch y cwrs. Bydd y rhain yn cynnwys llawer o staff a myfyrwyr y Brifysgol, a hoffwn ddiolch i chi am eich ymrwymiad. Cadwch olwg hefyd ar y ffisiotherapyddion o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn eu pabell ym Mhentref y Rhedwyr. Byddant wrth law i leddfu’r boen drwy gynnig tyliniadau mawr eu hangen. Yn amlwg, bydd pob croeso i bawb ymweld â phabell Prifysgol Caerdydd ac ymuno yn y gweithgareddau.

Mae’n bleser gennym gefnogi Hanner Marathon Caerdydd a chredaf y bydd yn ysbrydoli eraill i ddilyn ffyrdd o fyw iach a gweithgar. Bydd yn adeiladu ar lwyddiant ein gwaith ym Mhencampwriaethau Hanner Marathon y Byd yn gynharach eleni. Pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan, ym mha bynnag ffordd, ac rwy’n gobeithio y cewch ddiwrnod gwych. Os na allwch ddod draw dydd Sul, bydd y ras yn cael ei dangos yn fyw ar BBC One Wales.