Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Wythnos cadarnhau a chlirio yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

13 Medi 2016

Mae’r cyfnod cadarnhau a chlirio yn teimlo fel cyfuniad o ‘gynllunio a jyglo’, nid yn unig i’r ymgeiswyr, ond hefyd i dimau academaidd a Gwasanaethau Proffesiynol yr Ysgol a’r Coleg. Yn ystod y broses glirio yn enwedig, mae pethau’n digwydd yn gyflym ac yn ddirybudd, a gall y data neidio o un patrwm i’r llall bob 15 munud.  I bawb sy’n rhan ohoni, gall y broses deimlo’n heriol ac yn gyffrous, ond hefyd yn gythruddol wrth i batrwm y ceisiadau neidio o gwmpas.

Er gwaethaf hyn i gyd, yn ôl pob golwg rydym yn mynd i gyrraedd ein targed ar gyfer recriwtio myfyrwyr israddedig Cartref/UE ar gyfer 2016/17. Fel Coleg, aethom drwy’r broses glirio ar gyfer myfyrwyr Cartref ac UE yn llwyddiannus (ac yn gyflym). Cafodd bron i bob un o’n lleoedd ei lenwi ar y diwrnod cyntaf y bu’r ganolfan alwadau’n weithredol, mae gennym 7% yn fwy o fyfyrwyr ers y llynedd, sy’n well na’r cyfartaledd ar gyfer y sector, sef +2.5%.

Hwn yw un o’r cyfnodau yn ystod y flwyddyn academaidd lle mae pob un ohonom yn dod at ein gilydd i gydweithio. Bob blwyddyn mae rhai Ysgolion yn bellach o’u targed recriwtio nag eraill, ond mae Ysgolion eraill yn llenwi’r bylchau hyn. Rwy’n falch iawn o sut mae pawb yn cyd-dynnu (weithiau ar ôl i mi eu hannog i wneud hynny yn y cyfarfodydd y mae pob Ysgol yn eu mynychu; gall pwysau moesol wneud gwahaniaeth!) ac yn helpu ei gilydd pan fo angen.

Wrth gwrs, mae gwaith i’w wneud o hyd. Er mai recriwtio myfyrwyr Cartref ac UE yw’r rhan gyntaf a mwyaf o’r gwaith hwn, rydym yn dal i aros am y rhifau terfynol ar gyfer myfyrwyr Rhyngwladol, a myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir. Er bod y rhifau i’w gweld yn addawol, mae’n anodd dweud a ydym wedi cyrraedd ein targed recriwtio nes y bydd y myfyrwyr yn cyrraedd Caerdydd. Byddaf yn trafod y darlun ehangach yn hyn o beth mewn blog yn y dyfodol.