
Ar gais yr Is-Ganghellor, trefnais ymweliad â Chaerdydd gan gynrychiolydd Gweinyddiaeth Ynni Mecsico yn y DU, Mr Nelson Mojarro Gonzalez. Diben y digwyddiad oedd arddangos ansawdd rhagorol ymchwil y Brifysgol ym maes ynni, a pha mor eang yw’r gwaith hwnnw.
Yn gefndir i hyn i gyd yw’r rhaglen hynod uchelgeisiol a lansiwyd gan Lywodraeth Mecsico, lle bydd yn rhaid i’r wlad fuddsoddi 131.6 biliwn o ddoleri dros y pymtheg mlynedd nesaf yn ei rhwydweithiau cynhyrchu, trawsyrru a dosbarthu ynni er mwyn dilyn cynllun datblygu cynaliadwy. Amcangyfrifir y bydd angen i Fecsico hyfforddi o leiaf 135,000 o arbenigwyr lefel uchel i gyflawni’r rhaglen ac i gyrraedd y targed o sicrhau erbyn 2024 bod 35% o’r ynni a gynhyrchir yn ynni glân. Bydd diwygio’r sector ynni hefyd yn paratoi’r ffordd i gwmnïau preifat gymryd rhan a chystadlu yn y sectorau pŵer, olew a nwy er mwyn gwneud y farchnad yn fwy cystadleuol. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i ymchwil a hyfforddiant, gyda 60,000 o ysgoloriaethau ar gyfer pynciau sy’n gysylltiedig ag ynni.
Aeth cydweithwyr o’r Ysgolion Peirianneg, Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, Cemeg, Pensaernïaeth a Seicoleg i’r digwyddiad, a sôn am yr hyn mae eu hymchwil yn canolbwyntio arno, a’r datblygiadau diweddaraf yn eu gwaith. Mae synergedd sylweddol a chydweddiad da iawn o ran arbenigedd a gwybodaeth, a byddwn yn ymchwilio’n fwy manwl i hyn dros yr wythnosau nesaf i weld sut y gellid cydweithio. Siaradodd fy nghydweithiwr, yr Athro Nora de Leeuw, PVC International, am strategaeth ryngwladol Prifysgol Caerdydd a’r rhaglen ddarpariaeth gydweithredol, gan ymchwilio i fodelau a ffyrdd posibl y gallai’r Brifysgol gynorthwyo rhaglen Mecsico o ddatblygu adnoddau. Cafwyd mwy a mwy o drafodaethau dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys nifer o ymweliadau â sefydliadau Mecsico, a llofnodwyd Memoranda Cyd-ddealltwriaeth newydd.
Daeth y diwrnod i ben gydag ymweliad â’r Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy ym Mhort Talbot, lle roedd Mr Gonzalez yn awyddus iawn i ddysgu mwy am y gwaith profi a hyfforddi a wneir yn y Ganolfan.
Roedd y digwyddiad yn un cadarnhaol iawn, a gobeithiwn y bydd modd i ni ychwanegu at raglen ymchwil gydweithredol sy’n fanteisiol i’r ddwy ochr, a hynny drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys ffynonellau megis Cronfa Newton, y Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang, ac ysgoloriaethau CONACYT.