Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 12 Medi 2016

12 Medi 2016
  • Croesawodd yr Is-Ganghellor yr Athro Coffey i gyfarfod y Bwrdd am y tro cyntaf.
  • Nodwyd bod Prifysgol Caerdydd wedi’i henwi’n brif bartner ar gyfer un o’r 14 CTA ESRC newydd, mewn cydweithrediad ag Abertawe, Bangor ac Aberystwyth.
  • Nodwyd bod yr Athro Danny Pieters, Is-Reithor KU Leuven, wedi ymweld â’r Brifysgol, ac y byddai’r Athro Wyn Jones a Chanolfan Llywodraethiant Cymru yn cynnal prosiect ar y cyd gyda’r Athro Pieters a’i gydweithwyr.
  • Nodwyd bod Mr Davies yn ymddeol ym mis Mawrth 2017, a bod y broses o recriwtio Cyfarwyddwr Cyllid newydd ar fin dechrau; estynnwyd dymuniadau gorau’r Bwrdd i Mr Davies.
  • Nodwyd bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Mr Vaughan Gething, wedi mynd i’w ddigwyddiad swyddogol cyntaf yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol heddiw, i agor cynhadledd.
  • Nodwyd bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ymweld â’r Brifysgol ar 8 Medi 2016. Cafodd gyfarfod preifat gyda’r Is-Ganghellor, cyn traddodi ei haraith.
  • Nodwyd bod yna eglurder bellach o du’r Trysorlys ynglŷn ag ymchwil a Horizon 2020, ac y byddai cytundebau a lofnodwyd cyn Datganiad yr Hydref ar 23 Tachwedd yn cael eu gwarantu hyd at 2020.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am y prosiectau Portffolio Addysg. Cytunodd y Bwrdd fod hwn yn gyfle da i adolygu’r portffolio prosiectau addysg er mwyn sicrhau bod cynifer o gyfleoedd â phosibl i wella profiad y myfyrwyr, gan gynnwys cwmpas, blaenoriaethau perthynol, amserlenni a buddiannau, fel y gall y Bwrdd wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â buddsoddiadau yn y dyfodol.
  • Cafodd y Bwrdd gopi o Archwiliad Arloesedd De-orllewin Lloegr a De-ddwyrain Cymru cyn iddo gael ei gyflwyno.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.
  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd
  • Adroddiad misol Rhyngwladol ac Ewrop y Dirprwy Is-Ganghellor
  • Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata