Ffarwel gyfeillion…
31 Awst 2016Rwyf yn ysgrifennu hwn ar fore fy niwrnod olaf yn Ddirprwy Is-Ganghellor, mewn cyflwr o sioc (i ble’r aeth y 40 mlynedd ddiwethaf?) a thristwch (mae’r cylch academaidd blynyddol wedi llywodraethu fy mywyd ers i mi fod yn 5 oed). Bydd llawer ohonoch yn gwybod i mi ddod i Goleg y Brifysgol Caerdydd yn fyfyriwr israddedig, ac aros ymlaen tan i mi gwblhau fy ngradd PhD. Rwyf i wedi gwneud popeth o gontract oriau sero (fel arfer dysgu gyda’r nos, nad oedd neb arall yn awyddus i’w wneud) i fod yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol (a phopeth arall yn y canol hefyd mae’n siŵr). Rwyf i wedi gweithio mewn llefydd eraill, ond mae i Gaerdydd le arbennig iawn yn fy nghalon. Wnaf i ddim esgus fod popeth yn wych yma – yn wir mae canlyniadau’r NSS eleni’n ein hatgoffa’n ddigon clir bod digon ar ôl i’w wneud – ond hoffwn i ofyn i bawb gofio mor lwcus ydyn ni i gael gweithio mewn sector lle gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymdeithas. Mae wedi bod yn fraint cael cyfarfod a gweithio gyda staff mor greadigol, gofalgar a dynamig a bod yn rhan o drawsnewid bywydau’r genhedlaeth nesaf.
Pan gyflwynais fy ngradd PhD roedd fy mab yn 3 oed (mae’n 37 bellach!) ac fe nodais yn yr adran diolchiadau ‘efallai na fydd gan mami gymaint o waith cartref nawr, a mwy o amser i chwarae’. Pan oedd e gartref dros y Nadolig fe welodd gyfrol fy nhraethawd ymchwil, daeth i’r gegin a nodi ei fod yn dal i aros! Felly ydy, mae wedi bod yn waith caled, ac yn llawer o waith – ond mae bod yn rhan o fywyd mor wych yn gwneud i mi deimlo’n ostyngedig. Dylwn i orffen drwy barhau i gydnabod cefnogaeth fy nheulu – allwn i ddim fod wedi’i wneud hebddyn nhw wrth fy ochr.
Rydyn ni’n hynod o ffodus y bydd yr Athro Amanda Coffey yn dechrau fel DIG newydd fory – rwy’n gwybod ei bod yn angerddol dros addysg a’r grym sydd gan addysg i newid bywydau. Rwy’n dymuno’r gorau iddi yn y dyfodol.
Os gwnaf i ddechrau enwi’r bobl rwy’n ddiolchgar iddyn nhw, rwy’n siŵr o anghofio enw rhywun – felly i bawb, yn y gorffennol ac yn y presennol: Diolch – mae wedi bod yn wych!
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014