Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Ein hymroddiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

18 Awst 2016

Yr adeg hon o’r flwyddyn rwy’n darllen drwy ein cyflwyniad i Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall. Mae’r cyflwyniad yn caniatáu i ni fesur ein hymroddiad i gydraddoldeb LHDTh ac asesu lle mae angen i ni ganolbwyntio fel Prifysgol fel rhan o’n hymroddiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd y cyflwyniad hefyd yn caniatáu i ni weld lle rydym yn graddio yn y 100 uchaf o gyflogwyr LHDTh sy’n cymryd rhan. Mae’r Mynegai yn edrych ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys rheoli llinell, hyfforddiant, caffael, datblygiad gyrfa a hefyd nyn bwriadu asesu a yw ein budd-daliadau yn gynhwysol i’r holl staff. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi newid ein polisïau er mwyn sicrhau bod staff sydd am gael teulu drwy fenthyg croth yn cael cynnig yr un manteision â’r rhai sy’n mabwysiadu, diwygio cynllun pensiwn Prifysgol Caerdydd sy’n sicrhau bod gan bartneriaid o’r un rhyw yr un manteision fel partneriaid gwahanol ryw, ac rydym wedi edrych ar yr iaith rydym yn ei defnyddio yn ein polisïau a budd-daliadau i sicrhau ein bod yn mabwysiadu arfer gorau.

Mae Stonewall yn ddiweddar wedi ehangu eu cwmpas i gynnwys gwaith ar gyfer y gymuned ddeuaidd a Thraws. Mae angen i ni adlewyrchu hyn yn ein harferion o amgylch y Brifysgol nid yn unig yng ngolau’r hyn mae Stonewall yn gofyn i ni ei wneud ond am mai dyma’r peth iawn i’w wneud. Er enghraifft, fel rhan o ddatblygiad Ystadau bydd pob adeilad newydd y Brifysgol yn darparu toiledau niwtral o ran rhyw ac rydym yn edrych ble gallwn addasu cyfleusterau ar draws ein campws presennol i gefnogi staff a myfyrwyr sydd efallai’n dymuno defnyddio cyfleusterau amgen. Rydym hefyd yn sicrhau bod myfyrwyr a staff yn gallu dewis y teitl Mx wrth wneud cais i’r Brifysgol am waith neu astudio.

Yn 2016 cyrhaeddom rif 20 yn y 100 uchaf o gyflogwyr a ni oedd y Sefydliad Addysg Uwch uchaf. Mae’r gystadleuaeth yn gref, ond gobeithio y gallwn barhau i gynnal ein hymagwedd sy’n arwain y sector at y gwaith pwysig hwn.