Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Gorffennaf 2016

25 Gorffennaf 2016

Annwyl gydweithiwr

Yn ystod mis llawn o storïau newyddion syfrdanol, un o’r rhai mwyaf nodedig oedd penodiad yr Ysgrifennydd Tramor newydd.  Cyfeirio ydw i, wrth gwrs, at benodiad yr Athro Richard Catlow o’r Ysgol Cemeg yn Ysgrifennydd Tramor y Gymdeithas Frenhinol. Dyma amser gwych i’r Athro Catlow gael ei ethol i’r swydd bwysig hon sydd wedi bodoli ers 1723. Mae’r Gymdeithas Frenhinol o bwysigrwydd rhyngwladol enfawr, ac mae’n ddylanwadol iawn fel llais gwyddoniaeth Prydain. Gwn y bydd Richard yn gynrychiolydd doeth, gwybodus a synhwyrol ar ran y gymuned ymchwil wrth i’r DU drafod ein lle newydd yn y byd. Hoffwn ei longyfarch yn dwymgalon ar ran y Brifysgol, a dymuno pob llwyddiant iddo yn ei swydd newydd.

Yn y cyfamser, mae gennym Brif Weinidog newydd, ac yn sgil hynny mwy o newidiadau llywodraethol nag y gallem erioed fod wedi ei ddisgwyl (er ein bod wedi cael un digwyddiad annisgwyl ar ôl y llall yn y bythefnos ddiwethaf). Mae’n bendant o gymorth nad oes gennym fisoedd o ansicrwydd i’w hwynebu wrth i lywodraeth newydd ffurfio yn dilyn ymddiswyddiad y cyn-Brif Weinidog. Mae dwy brif agwedd ar hyn sy’n werth eu nodi. Yn gyntaf, mae’n golygu y gall y DU weithio’n gynt i sefydlu polisi ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Ni fyddai cyfnod maith o ddisgwyl a dyfalu ynghylch beth sydd i ddod a ph’un ai y byddem yn gallu parhau gyda’n gwaith ymchwil, recriwtio ac addysgu myfyrwyr o Ewrop ac ati, wedi bod er lles y Brifysgol na’r wlad yn ehangach. Gorau po gyntaf y cawn eglurder ynghylch materion megis p’un ai y bydd myfyrwyr o Ewrop sy’n gwneud ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2017-18 yn gallu derbyn benthyciadau myfyrwyr ar y telerau presennol, ac mi fydd yn hynod o ddefnyddiol dod i ddeall trywydd cyffredinol llywodraeth y DU yn y trafodaethau.

Yn fwy penodol, mae strwythur newydd Whitehall yn golygu bod yr elfen o addysgu mewn Prifysgolion yn Lloegr bellach am fod yng ngofal yr Adran Addysg (Ysgrifennydd Gwladol, Justine Greening) tra bo’r elfen ymchwil yn holl Brifysgolion Prydain, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, am fod yng ngofal Greg Clark, yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiant. O safbwynt sefydlogrwydd, braf oedd clywed y bydd Jo Johnson yn parhau’n Weinidog ar gyfer Prifysgolion a Gwyddoniaeth, ac yn bydd yn atebol i ddau weinidog yn y cabinet (Ms Greening a Mr Clark) gan weithio gyda swyddogion ar draws y ddwy adran. Amcanion y llywodraeth newydd ar gyfer prifysgolion ac ymchwil yw’r hyn sy’n peri’r ansicrwydd mwyaf. Roedd y Canghellor blaenorol, George Osborne, yn gefnogol iawn o ymchwil, a gwelai bwysigrwydd addysg uwch, gwyddoniaeth ac ymchwil yn nhwf yr economi ac yn annog arloesedd. Gobeithiwn y bydd ei olynydd, Philip Hammond yn cydweld yn hyn o beth, a disgwyliwn am unrhyw arwydd a fydd yn rhagfynegi trywydd y Prif Weinidog newydd, Theresa May, ar y mater. Yn ei chyfnod fel Ysgrifennydd Cartref, roedd Mrs May benben â phrifysgolion yn gyson ynghylch cynllun fisâu myfyrwyr rhyngwladol, ac mae’n bosibl bod dipyn o waith ei angen ar gyfer sefydlu a meithrin y berthynas newydd.  Credaf fod y cyfnod hwn, a ninnau ar fin ymadael â’r UE, yn bwysicach nag erioed ar gyfer ein perthynas gyda myfyrwyr rhyngwladol a gwledydd Ewrop a thu hwnt yn gyffredinol. Dyma’n union mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, wedi bod yn ei ddweud yn gyson, felly gobeithiaf y gallwn gymryd hynny’n beth arwyddocaol.

Yma yng Nghaerdydd ar y llaw arall, cawsom wythnos ardderchog o seremonïau graddio eto eleni. Rydym wedi parhau i addasu trefniadau’r seremonïau a theimlaf ein bod bellach wedi llwyddo i sicrhau eu bod yn llifo a bod cydbwysedd rhwng y seremonïol a’r anffurfiol. Roedd y seremonïau’n fyrrach ac roedd golwg ac ymdeimlad Neuadd Dewi Sant a’r dalgylch yn fwy cyson â thema Prifysgol Caerdydd. Fel y gwyddoch, mae’r seremonïau graddio’n broses enfawr; ar y cyfan, roedd tua 24,000 o raddedigion a gwesteion ac roedd 20,000 arall yn gwylio’r seremonïau ar y we. Mae’r gwaith trefnu’n aruthrol a hoffwn ddiolch o galon i’n cyflwynwyr, i’r rheiny oll a weithiodd yn galed ar ddigwyddiadau llwyddiannus yr Ysgolion, i Undeb y Myfyrwyr a’r cydweithwyr niferus o’r Gwasanaethau Proffesiynol, yn arbennig Arlwyo, Porthora, y Gofrestrfa, TG, Datblygiad a Graddedigion, a heb anghofio Cyfathrebu a Marchnata, sydd oll yn gweithio’n effeithiol ac mor agos at ei gilydd i wneud yr uchafbwynt blynyddol hwn yn llwyddiant ysgubol.

Yn olaf, pleser o’r mwyaf yw croesawu’r Athro Laura McAllister CBE i’r Brifysgol. Bydd Laura’n ymuno â Chanolfan Llywodraethiant Cymru, wedi iddi weithio fel Athro mewn Llywodraethu ym Mhrifysgol Lerpwl. Mae Laura‘n ardderchog yn academaidd ac yn ei gwaith mewn bywyd cyhoeddus, ac fel Cymrawd Er Anrhydedd, mae ganddi eisoes gysylltiad cryf â’r Brifysgol. Bydd ei harbenigedd yn amhrisiadwy nid yn unig o fewn y Brifysgol, ond yn gyffredinol yng Nghymru a thu hwnt hefyd, wrth inni ddygymod â goblygiadau Brexit a’i effaith ar ddatganoli.

Fel arfer, nid wyf yn gyrru ebost fis Awst; hwyrach y byddaf eleni os teimlaf fod newyddion yn y cyfamser a fydd yn effeithio ar y Brifysgol. Fel arall, byddaf yn cysylltu ddiwedd mis Medi. Yn y cyfamser, gobeithiaf y cewch seibiant haeddiannol rhyw bryd dros yr haf. Rwy’n ymwybodol iawn o’r pwysau sydd ar bawb ac rwy’n gwerthfawrogi eich holl ymdrechion yn fawr; mae ein llwyddiannau’n parhau i gael sylw allanol ac mae’n wych gweld ein cynnydd yn derbyn cydnabyddiaeth.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor