Diwrnod yng nghwmni Syr Mark Walport
1 Gorffennaf 2016Ar 27 Mehefin, lansiwyd Canolfan Wybodaeth Caerdydd o Academia Europaea. Cynhaliwyd y lansiad yn ystod 28ain cynhadledd a chyfarfod blynyddol y sefydliad, a gynhaliwyd yn Adeilad Hadyn Ellis. Daeth rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Ewrop ym meysydd y dyniaethau a’r gwyddorau ynghyd ar gyfer y digwyddiad hwn, sy’n rhan o Haf Arloesedd a Caerdydd. Mae gan yr Academia rwydwaith o ganolfannau gwybodaeth rhanbarthol yn Barcelona, Wroclaw, Bergen, yn ogystal â Phrifysgol Caerdydd erbyn hyn. Yr Athro Ole Petersen yw Cyfarwyddwr Academaidd Canolfan Wybodaeth Caerdydd.
Fel y cyfeiriwyd ato yn Newyddion Caerdydd, defnyddiwyd yr achlysur hefyd i gyflwyno Medal Erasmus 2016 i’r Seryddwr Brenhinol yr Arglwydd Martin Rees am ei gyfraniad aruthrol a’i gyflawniadau mewn cysylltiad â gwyddoniaeth Ewropeaidd dros amser maith. Cafwyd darlith gyfareddol ganddo o’r enw From Mars to the Multiverse.
Un o uchafbwyntiau’r gynhadledd eleni oedd trafodaeth ar fecanweithiau cyngor gwyddonol, gyda Syr Mark Walport, Prif Gynghorydd Gwyddonol y DU, yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, a Patrick Child, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth Ymchwil ac Arloesedd y Comisiwn Ewropeaidd.
Bu Syr Mark mor garedig â chytuno i aros yng Nghaerdydd am ddiwrnod ychwanegol i gael gwybod rhagor am ein hymchwil ym meysydd y niwrowyddorau, iechyd meddwl, systemau imiwnedd a thonnau disgyrchiant. Cawsom fore llawn cyflwyniadau a dadleuon gwyddonol, cyn cynnal taith dywys gynhwysfawr o Ganolfan Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd a’i chyfleusterau. Nodwyd ansawdd rhagorol ein hymchwil a chawsom gyngor defnyddiol dros ben. Ar ôl y ddadl wyddoniaeth yn y bore, trafodwyd yr Archwiliad Arloesedd a Gwyddoniaeth, ac roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru yn bresennol hefyd.
Rydym yn hynod ddiolchgar i Syr Mark am roi o’i amser i astudio rhywfaint o’r gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghaerdydd ac am drafod datblygiadau niwrowyddonol yn y dyfodol. Diolch iddo hefyd am ei gyngor a’i arweiniad ynglŷn â’r Archwiliad Arloesedd a Gwyddoniaeth. A ninnau ar drothwy cyfnod eithaf heriol, roedd yn braf cael y cyfle i ddathlu partneriaethau ymchwil rhyngwladol ac atgoffa ein hunain o’r heriau byd-eang sy’n wynebu pob un ohonom.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014