Heulwen yr haf yn disgleirio ar ein syniadau a’n partneriaethau
20 Mehefin 2016Yn wyrthiol, mae Cymru wedi gweld rhywfaint o haul yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rydym wedi bod yn manteisio ar y ffenomenon prin hwn drwy daflu goleuni ar ein partneriaethau arloesol.
Dros y pedwar mis nesaf, byddwn yn arddangos ein syniadau ac ymchwil mwyaf disglair, gan ddod â rhyw 20 o ddigwyddiadau Prifysgol Caerdydd ynghyd o dan ymbarél – neu barasol, efallai – yr Haf Arloesedd.
Mae Gwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd, a gynhelir bob haf, yn arddangos ein llwyddiannau. Bydd y cinio, ar 22 Mehefin, yn dathlu pum prosiect anhygoel sy’n rhychwantu ein tri Choleg.
Mae’r Haf Arloesedd yn cynnwys amrywiaeth eang o ddigwyddiadau arloesedd, o ddyddiau hacio i seminarau a gweithdai. Rydym am i bawb gymryd rhan.
Tu hwnt i’r dathliadau tymhorol, hoffwn ddiolch o galon i’n staff academaidd am eu hymdrech diflino i ganfod arloesedd drwy gydol y flwyddyn. Diolch hefyd i’n staff proffesiynol sy’n helpu ein hymchwilwyr blaenllaw i feithrin cysylltiadau hirdymor gyda’n partneriaid allanol, hyrwyddo cwmnïau deillio a busnesau newydd, a datblygu Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth.
Fel y dengys ein holl brosiectau, mae arloesedd yn broses agored a chydweithredol. Bydd datblygu Campws Arloesedd y Brifysgol gwerth £300m yn ein galluogi i wneud rhagor. Mae agoriad swyddogol Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd wedi rhoi bri cynyddol y Brifysgol ym maes arloesedd yn gadarn ar lwyfan y byd. Mae hynny’n rhoi rheswm da dros gael Haf o Ddathlu.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014