Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol 25 Ebrill 2016

25 Ebrill 2016
  • Nodwyd y byddai Oriel VJ yn cael ei thrawsnewid yn ystod yr wythnos i greu man creadigol.  Prosiect y Stiwdio Fertigol yw hwn sy’n cael ei gynnal ar y cyd gan Gaerdydd Creadigol a myfyrwyr o’r Ysgol Pensaernïaeth.
  • Cafodd y Bwrdd bolisi a chynllun gweithredu Atal y Brifysgol.  Cytunwyd ar nifer o newidiadau. Caiff y rhain eu hymgorffori cyn cyflwyno’r papur i’r Cyngor ar 23 Mai 2016.
  • Cafodd y Bwrdd bapur yn argymell y dylai’r Brifysgol lofnodi Cytundeb Corfforaethol y Lluoedd Arfog.  Cytunwyd y byddai’r Bwrdd yn llofnodi templed y Weinyddiaeth Amddiffyn ar ôl ei newid yn briodol i adlewyrchu gweithgareddau ac ymrwymiadau’r Brifysgol.
  • Cafodd y Bwrdd fersiwn ddrafft y strategaeth Ehangu Cyfranogiad.  Yn amodol ar wneud rhai mân newidiadau, cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo fersiwn ddrafft y strategaeth Ehangu Cyfranogiad a’r papurau cysylltiedig i’w hystyried gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd ar 18 Mai 2016.
  • Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghaerdydd.  Cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo derbyn gwobr o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) ar gyfer Uwch-dechnolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy ASTUTE2020, gwobr o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) ar gyfer Ysgoloriaethau Sgiliau Economi a KESS II, a Rhaglen Cyflawni drwy Brofiad Gwaith GO Wales 2016-19.
  • Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y buddsoddiad yng nghyllideb yr Adnoddau Gwybodaeth Academaidd yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf yn ogystal â manylion am yr effaith gadarnhaol a gafwyd o ganlyniad i’r buddsoddiad hwn.
  • Cafodd y Bwrdd bapur briffio am Raglen Maniffesto Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 – Trosolwg o’r Prif Bolisïau sy’n ymwneud â Phrifysgolion.