Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Medicentre – Meithrin Syniadau, Creu Twf

12 Ebrill 2016

Nid yw arloesedd clinigol yn llwyddiant dros nos, fel arfer.

Mae cynnyrch a syniadau newydd sy’n ‘ddatblygiadau meddygol anhygoel’ yn llygaid awduron y cyfryngau, yn aml yn seiliedig ar flynyddoedd o ymchwil sylfaenol ac ymddiriedaeth rhwng ymchwilwyr a diwydiant, y GIG, y llywodraeth a phartneriaid eraill.

Dyma pam mae partneriaeth arloesedd clinigol newydd Prifysgol Caerdydd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn newyddion eithriadol.

Bydd Medicentre wrth wraidd y cytundeb newydd hwn, yn helpu busnesau i ffynnu. Bydd yn troi ymchwil glinigol arloesol yn gynnyrch a gwasanaethau clinigol o’r radd flaeneaf, ar gampws Parc y Mynydd Bychan.

Mae’r Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd bellach yn berchen ar Medicentre, ac yn ei redeg ym Mharc y Mynydd Bychan, o ganlyniad i gytundeb a lofnodwyd ar 31 Mawrth 2016, yn dilyn cyhoeddiad ffurfiol y Bartneriaeth Arloesedd Clinigol ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Ar sail perthynas hirsefydlog, mae’r cytundeb yn amlinellu cydweithio agosach ar amrywiaeth o heriau, gan gynnwys mynd i’r afael â dementia, datblygu cynnyrch a gwasanaethau arloesol ar gyfer gwell canlyniadau iechyd, a gwella dulliau rhoi diagnosis sy’n gysylltiedig â meddygaeth fanwl.

Mae sicrhau cyfran reoli ym Medicentre yn rhoi i’r ddau bartner ddigon o le i ddod â syniadau’n fyw, lle gall meddyliau arloesol gyfarfod i ddatblygu ffyrdd arbennig o wella bywydau cleifion. Mae Medicentre yn rhan allweddol o’r cytundeb ar y cyd, a bydd yn rhoi’r gofod angenrheidiol ar gyfer busnesau newydd ac is-gwmnïau yn y dyfodol.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd y Brifysgol yn gweithio ar uno gwaith Medicentre â nodau strategaeth Y Ffordd Ymlaen – gan helpu i droi ymchwil academaidd o’r radd flaenaf yn gynnyrch a gwasanaethau sy’n arwain at ffyniant yn y dyfodol, twf cynaliadwy a gwell lles.

Mae Medicentre eisoes yn gartref i gwmnïau rhyngwladol. Mae chwech yn gysylltiedig â’r Brifysgol, pedwar ohonynt yn is-gwmnïau Prifysgol Caerdydd (Alesi Surgical Ltd (Asalus gynt), Authentic World, Cardiff Scintographics, a Medaphor). Mae hefyd yn gartref i Cedar, canolfan werthuso academaidd y GIG, ac Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru (WIMAT).

Mae arloesedd clinigol yn rhan allweddol o fuddsoddiad cyfalaf £300m y Brifysgol. Fel y dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae cydweithio agosach rhwng y Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd yn newyddion da i gleifion, diwydiant ac economi ehangach Cymru.