Rôl arweiniol yn Bio Cymru
16 Mawrth 2016Yn gynharach y mis hwn mynychais Bio Cymru 2016, un o gynadleddau Gwyddorau Bywyd mwyaf blaenllaw’r DU. Gan ddenu dros 600 o academyddion blaenllaw ac arbenigwyr y diwydiant mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle unigryw i adeiladu cydweithrediadau rhyngwladol newydd a chyfleoedd partneriaeth.
Am y tro cyntaf cafodd Prifysgol Caerdydd ei henwi fel y prif noddwr ar gyfer y digwyddiad yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i lunio’r profiad i gynadleddwyr ac arddangos y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig. Fel prifysgol flaenllaw Cymru roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig i ddangos ein hymrwymiad i’r digwyddiad ac i chwarae’n rhan yn yr ymdrechion sy’n cael eu gwneud i ddatblygu ymhellach y sector gwyddorau bywyd ffyniannus sy’n bodoli o fewn Cymru.
Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol, roeddem yn gallu cyflwyno arddangosfa hynod broffesiynol a chyflwyno rhai negeseuon cryf am ein cyflawniadau a’n dyheadau ar gyfer y dyfodol. Hwn oedd y lleoliad perffaith i arddangos yr amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau biofeddygol rydym yn meddu arnynt ar draws y Brifysgol, gan gynnwys, wrth gwrs, y CUBRIC newydd.
Roedd y dull cydgysylltiedig a arddangoswyd yn atgyfnerthu’r ffordd yr ydym yn awyddus i gyflwyno ein hunain i’r byd y tu allan – yn groesawgar, yn broffesiynol, ac ar agor ar gyfer busnes.
Ein prif gyhoeddiad oedd lansio Partneriaeth Arloesedd Clinigol newydd ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Cafodd y lansiad ei gyflwyno fel y prif anerchiad i gynulleidfa lawn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Lleoliad addas i gyhoeddi menter uchelgeisiol i ddatblygu arloesedd clinigol yng Nghymru.
Er nad yw arloesedd clinigol yn gysyniad newydd ar gyfer y naill sefydliad na’r llall mae’r trefniant newydd hwn yn ymwneud â chreu newid sylweddol mewn cyflymu trosi arloesedd clinigol i welliannau mewn gwasanaethau iechyd a chlinigol. Rydym yn gobeithio y bydd yn helpu i harneisio syniadau gwych gan glinigwyr, academyddion, myfyrwyr, a chleifion i ddatblygu’r syniadau hyn yn gyflym ac yn effeithiol er lles pawb.
Bydd y Bartneriaeth Arloesedd Glinigol yn anelu at fynd i’r afael â heriau iechyd mawr ein hoes ac ar gyfer y flwyddyn gyntaf o weithredu, rydym wedi dewis canolbwyntio ein hadnoddau ar faes cryfder sylweddol ar gyfer y ddau sefydliad – dementia.
Mae hon yn fenter gyffrous ac rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu’r bartneriaeth yn y blynyddoedd i ddod. Yr wyf yn gobeithio y byddwn yn cael ein gwahodd yn ôl i gyflwyno ein cynnydd yn Bio Cymru 2017 gan y byddai hyn yn golygu bod y fenter wedi cael effaith gwirioneddol – gwyliwch y gofod hwn.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014