
Cafwyd newyddion da yn y gyllideb yr wythnos diwethaf ar gyfer y Brifysgol, pan gyhoeddodd y Canghellor George Osbourne fod consortiwm a arweinir gan GW4 o fusnesau a sefydliadau o bob cwr o Dde Ddwyrain Cymru a De Orllewin Lloegr wedi cael eu dewis i gymryd rhan yng ngham gyntaf Archwiliadau Gwyddoniaeth ac Arloesi (SIAs) yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS).
Mae’r consortiwm yn cynnwys ystod eang o fusnesau o bob rhan o’r rhanbarth, pum Partneriaeth Menter Leol (LEPs), 13 awdurdod lleol, prifysgolion, sefydliadau a chatapyltiau ymchwil.
Caiff yr ‘Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi ar gyfer De-ddwyrain Cymru a De-orllewin Lloegr’ ei yrru gan y Gynghrair GW4. Mae wedi ei rannu’n bum prif thema sy’n cynrychioli’r ardaloedd cryfaf o ran ymchwil ac arloesi sydd eisoes yn bodoli ar draws y consortiwm.
Y rhain yw:
- Awyrofod a Pheirianneg Uwch
- Systemau Ynni Newydd
- Y Genhedlaeth Nesaf o Ficroelectroneg
- Llwyfan Arloesedd Byw Digidol
- Gwydnwch, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd BIS yn darparu’r consortiwm gyda chefnogaeth ddadansoddol er mwyn helpu i gynnal yr archwiliadau a darparu cyngor hanfodol ac annibynnol.
Creodd Jo Johnson, y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, yr SIAs yn haf 2015 mewn ymgais i wella gallu’r DU i nodi a dilysu ble roedd rhagoriaeth ymchwil bresennol ac un sy’n tyfu yn cael ei chyplysu â chryfder arloesedd sy’n dod i’r amlwg. Nod y SIAs yw adeiladu sail dystiolaeth gadarn a grymus, gan ddangos cysylltiadau cryf rhwng sefydliadau ymchwil a busnesau, a all fod yn sail i benderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol.
Byddwn yn diweddaru staff ar ddatblygiadau wrth i ni fynd ymhellach i mewn i’r broses.