Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 29 Chwefror 2016

29 Chwefror 2016
  • Nodwyd bod SPARK ar glawr y Bwletin UUK cyfredol.
  • Nodwyd bod bwletin Prifysgolion Cymru wedi dweud nad yw wedi bod yn bosibl sefydlu cynllun benthyciad i ôl-raddedigion yng Nghymru ar gyfer 2016/17. Byddai’n rhaid i brifysgolion Cymru sicrhau y caiff y neges bod benthyciadau Lloegr yn gludadwy, ei chyfleu yn glir. Nid oes rhaid aros i fenthyciadau Cymru gael eu sefydlu, sef ar gyfer 2017/18 gobeithio.
  • Nodwyd bod Sophie Timbers, yr Is-Lywydd Addysg presennol, wedi cael ei hethol fel Llywydd nesaf Undeb y Myfyrwyr.
  • Nodwyd bod yr Athro Tony Chapman wedi cyhoeddi y byddai’n ymddeol fel Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar 1 Awst 2016.
  • Cafodd y Bwrdd Gweithredol y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredol canol blwyddyn. Ni amlygwyd unrhyw feysydd o bryder.
  • Cafodd y Bwrdd Gweithredol bapur ar ddatblygiadau’r Seremoni Raddio. Roedd y papur yn amlinellu rhai newidiadau ar gyfer seremonïau 2016 a gweithgareddau cysylltiedig, gan gynnwys cyflwyno cyfarfodydd dathlu amser cinio ar gyfer grŵp bach o staff y Brifysgol a gwesteion pwysig, gan gynnwys Cymrodyr er Anrhydedd.  Byddai’r Tîm Cyfathrebu yn sicrhau eu bod yn cydlynu ag Ysgolion sy’n trefnu eu digwyddiadau amser cinio eu hunain ar gyfer eu myfyrwyr sy’n graddio, a chynhelir un cinio graddio a fyddai’n dathlu llwyddiannau’r Brifysgol dros y flwyddyn academaidd flaenorol.
  • Cafodd y Bwrdd Gweithredol bapur ar y cynigion i ymgorffori gonestrwydd a moeseg ymchwil yn y strwythurau llywodraethu. Cytunwyd i gymeradwyo’r cylch gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor Gonestrwydd a Moeseg Ymchwil, a fyddai’n adrodd yn ôl i’r Senedd.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau hyn:

  • Y newyddion diweddaraf am y System Arloesedd.
  • Adroddiad am weithgareddau Ymgysylltu.
  • Adroddiad misol Ymchwil ac Arloesi.