Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 22 Chwefror 2016

22 Chwefror 2016
  • Atgoffwyd y Bwrdd bod yr arolwg staff yn cael ei gynnal ar hyn o bryd a’n bod yn ceisio cael ymateb gan 50% o’n staff. Gofynnwyd i’r aelodau annog y staff i gwblhau’r arolwg.
  • Nodwyd bod yr Is-Ganghellor ymhlith 103 o arweinwyr prifysgolion sydd wedi llofnodi llythyr agored a gyhoeddwyd yn y Sunday Times ar 21 Chwefror 2016 ynglŷn â rôl hanfodol yr UE mewn addysg uwch.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am recriwtio rhyngwladol a nifer y myfyrwyr rhyngwladol ar hyn o bryd. Cytunwyd y byddai’r papur yn cael ei rannu gyda Byrddau’r Colegau.
  • Cafodd y Bwrdd grynodeb o adroddiad Arolwg Ar-lein Gyrfaoedd mewn Ymchwil (CROS). Cytunwyd y byddai’r Bwrdd yn cymeradwyo rôl y Rheolwr Hyfforddiant a Datblygiad (Ymchwil) drwy barhau i weithio mewn partneriaeth gyda Deoniaid Ymchwil. Y nod yw amlygu pa gamau sydd eu hangen i greu cytundebau penodol gyda Cholegau ac ymgorffori gweithgareddau yng nghynlluniau’r Colegau gan flaenoriaethu’r gwaith a gaiff ei wneud gyda’r Dirprwy Is-Ganghellor, y Deon Ymchwil a Bwrdd y Coleg.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Nodwyd bod grŵp llywio, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Richard Wyn Jones, yn paratoi gweithgareddau’r Brifysgol ar faes yr Eisteddfod a gynhelir yn y Fenni eleni.  Cytunwyd y bydd neges glir, gadarnhaol ac effeithiol yn cael ei rhoi i’r Ysgolion a’r Colegau i gael cynrychiolaeth o bob rhan o’r Brifysgol, a thu hwnt i’r staff sy’n ymwneud â’r digwyddiad fel arfer.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.