Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Darganfyddiad hadu yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd

19 Chwefror 2016

Yn gynharach yr wythnos hon, roeddwn yn falch iawn o gael ymweliad gan Aelod Seneddol Ogwr, Huw Irranca-Davies, fydd hefyd yn sefyll yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai. Roedd yn gyfle gwych i ni ddangos ein Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd yn Adeilad Hadyn Ellis.

Mae gwaith y sefydliad yn wirioneddol arloesol ac yn hynod ddiddorol.  Yn y tair blynedd ers ei sefydlu, mae wedi bod yn gweithio i ynysu’r celloedd mewn rhai tiwmorau canseraidd sy’n gyfrifol am hadu tiwmorau newydd.  Rydym bellach yn gwybod mai dim ond ychydig o gelloedd tiwmorau sy’n gallu hadu (gwneud tiwmorau newydd).  Drwy weithio gyda chydweithwyr yn ein Hysgol Fferylliaeth, aeth ymchwilwyr y sefydliad ati i weld a allant ddod o hyd i ffyrdd o atal y celloedd hyn rhag hadu. Roedd Dr Richard Clarkson, a fu’n ein tywys o amgylch ac yn egluro gwaith y sefydliad, yn ymdebygu hyn i bigo’r holl hadau o goeden sycamorwydden. Bydd y goeden yn parhau i fod yno, ond ni ellir plannu ychwaneg o goed.   Hyd yma, mae’r tîm wedi darganfod un ffordd o rwystro’r celloedd hyn, o bosibl, drwy fodelu cyfrifiadurol, ac mae llai na blwyddyn nes bydd y sefydliad yn cynnal ei dreialon clinigol cyntaf.

Mae’n gyfnod euraidd ar gyfer gwaith ymchwil y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, ynghyd â Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl,  a Chanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (neu CUBRIC) fydd yn cael ei hagor yn fuan mewn adeilad newydd ar ein Campws Arloesedd.  Rwyf wir yn teimlo’n gyffrous ynglŷn â’r hyn sydd o’n blaenau.