Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 8 Chwefror 2016

8 Chwefror 2016

• Nododd yr Athro Patricia Price ei bod am roi’r gorau i’w swydd fel y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Estynnodd aelodau’r Bwrdd eu dymuniadau gorau i’r Athro Price a chydnabod ei chyfraniad i’r Brifysgol.

• Nodwyd y cafodd y ‘Gweithdy Strategaeth’ cyntaf ei gynnal ar 5 Chwefror 2016, a chodwyd y cwestiwn a ddylai’r Brifysgol gael strategaeth a arweinir gan werthoedd yn ystod y trafodaethau.

• Nodwyd bod Deoniaid Coleg newydd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig wedi’u penodi – yr Athro Walter Gear (Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg) o 1 Chwefror, yr Athro Martin Kayman (y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol) o 1 Mawrth, a Dr Emma Kidd (Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd) o 1 Ebrill.

• Cafodd y Bwrdd bapur ar gamau i wella cyfraddau dyfynnu’r Brifysgol. Roedd yr argymhellion yn cynnwys paratoi arweiniad a chyfres o gamau ar gyfer holl academyddion ac ymchwilwyr ar draws y tri Choleg i gael cynifer o ddyfyniadau â phosibl. Cytunwyd y byddai’r camau’n cael eu cyflwyno drwy gyfarfod y Cyfarwyddwyr Ymchwil.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
• Adolygiad o’r Amgylchedd Allanol: Amserlen y datblygiadau allweddol o ran polisïau, rheoleiddiadau ac ariannu addysg uwch
• Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd.
• Adroddiad misol y Rhag Is-Ganghellor
• Adroddiad am weithgareddau Rhyngwladol ac Ewropeaidd
• Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
• Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.
• Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata.